Boddiwch eich llygaid ar ein syrpreis Pasg! Mae Clwb Cabaret Caerdydd yn cyflwyno Burlesque Eggstravaganza!
Ymunwch â’r cwningod bwrlésg yma ar gyfer noson o hud, rhyfeddod, comedi, sas a chân y Pasg yma.
Mae Clwb Cabaret Caerdydd wrthi eto, yn cyflwyno danteithion hynaws i blesio unrhyw balet. Mae’r cyflwynydd Mysti Vine wedi cyfareddu cynulleidfaoedd gyda’i swyn digywilydd a ffraethineb cyflym – a’r Pasg yma bydd hi’n rhannu’r llwyfan gyda bocs siocledi o’r sêr mwyaf melys o’r byd bwrlésg a cabaret.
Byddwch chi’n syrthio mewn cariad â’r ferch sioe sasi a sili Sandy Sure ac yn cael eich cludo i fydoedd hud o ryfeddod gyda’r clown theatraidd Kiki Lovechild cyn dechrau’r parti gyda’r perfformiwr pwerus a rhyweddhylifol Rouge ma Knees.
Gyda phlatiad hael o siapiau gan feistres y shimi Arabella Sparkles a mam fflyrtiog a doniol bwrlésg Cymru Foo Foo Labelle, bydd eich dant melys yn cael ei fodloni.
Gyda:
Mysti Vine
KiKi Lovechild
Rouge Ma Knees
Sandy Sure
FooFooLaBelle
Arabella Sparkles
Cardiff Cabaret Club dancers
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref + Noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret