Ffoniwch eich criw a ‘llygaid lawr’ ar gyfer y noson eithaf o hwyl!
Dwli ar bingo? Wrth eich bodd gyda cabaret? Cabaret Bingo yw’r digwyddiad na allwch chi ei golli!
Paratowch ar gyfer noson drydanol yn llawn gemau, glamor a pherfformiadau anhygoel. Bydd ein cyflwynydd disglair yn eich arwain drwy ddau rownd o bingo, lle mae enillwyr llinellau yn rheoli’r sioe – yn dewis trefn ein hactau bwrlésg, cabaret a cherddoriaeth syfrdanol.
Gyda gwobrau gwych i’w hennill a noson yn llawn syrpreisys, dyma bingo fel na welsoch erioed o’r blaen. Peidiwch â cholli allan, mynnwch eich tocynnau NAWR!
Wedi’i gyflwyno gan y seren drag leol Venus Flytrap, gyda pherfformiadau gan Oola Pearl, Lili Del Fflur a gwesteion arbennig.
Cyflwynir yn falch gan Quill & Pearl Presents a Del Fflur Productions
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Anweddus
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret