Ymunwch â ni ar 20 Mai am noson yn llawn glamor, dewrder a dirywiad gogoneddus wrth i Cabaret Provocateur ruo i mewn o Surrey gyda lein-yp disglair o ddoniau cabaret gorau gwledydd Prydain.
Paratowch i gael eich denu gan y seren bwrlésg Cocoa Amore a’r arobryn Aya L’Storm, sy’n falch o fod wedi cael ei rhestru ymhlith 20 Ffigwr Bwrlésg Gorau Gwledydd Prydain gan 21st Century Burlesque. Gallwch chi ddisgwyl artistiaeth syrcas anhygoel gan y seren ‘boylesque’ Danny Ash a pherfformiadau drag trydanol gan yr arbennig Petit Pois a Camille Leon.
Yn eich arwain drwy’r corwynt yma o herian, talent ac anhrefn pryfoclyd mae’r cyflwynydd a seren drag eiconig Llundain Baby Lame – “Yr unig gyflwynydd sy’n gallu eich sarhau a gwneud i chi ddiolch iddi.”
O strip-bryfocio nwydus i syrcas llawn egni a drag gwarthus, dyma cabaret dewr, llachar ac anymddiheurol.
Peidiwch â cholli allan ar sioe cabaret ungryw.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Cref, noethni, goleuadau strob/fflachio
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret