Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
DD PHOTO desktop

Line Dancing with The Double Dolly's

Cabaret

3 Ebrill 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Line Dancing with The Double Dolly's {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2866

Cabaret

Line Dancing with The Double Dolly's

3 Ebrill 2026

Cabaret

Sut hwyl!

Mae Dolly Parton wedi cael ei chlonio achos mae angen mwy o bositifrwydd, cariad a llawenydd yn y byd. Dwbl yr hwyl, dwbl yr helynt a dwbl y glamor!

Felly, ymunwch â’r Double Dolly’s ar gyfer parti doniol, gyda chaneuon byw Dolly Parton, comedi aflafar a dawnsio llinell arbennig.

Dewch â’ch ffrindiau, neu’ch Mam-gu, ar gyfer do-si-do yn y sioe dwymgalon a chynhwysol yma.

Rydyn ni’n eich annog i wisgo fel Dolly neu gowboi achos bydd gwobrau i’w hennill. 

Dyma’r lle i fod ar ôl i chi orffen eich 9 tan 5. Felly disgleiriwch fel diemwnt mewn byd o reinstonau a dewch i ymuno!

Byddwch chi’n llosgi ar ôl gwneud yr ‘electric slide’! Felly dewch i fwynhau parti gorau eich bywyd!

Yî-ha!

Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm

Oed: 18+

Rhybuddion: Iaith gref posibl

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

REOLAU'R TY CABARET 

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Cyflwynir yn

Cabaret