Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
f572095f-6517-4ee0-b2bd-c7c9f6a11de4

Parfait Presents:

A Queer Icons Cabaret

Cabaret

6 Mehefin 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London A Queer Icons Cabaret {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-2977

Parfait Presents:

A Queer Icons Cabaret

6 Mehefin 2026

Cabaret

Mae gwahoddiad i chi gychwyn mis Pride gyda noson swnllyd o gabare, drag a bwrlésg.

Gallwch ddisgwyl noson o adloniant byw heb ei thebyg gyda rhai o ddiddanwyr gorau gwledydd Prydain, gan gynnwys dau o berfformwyr bwrlésg mwyaf dylanwadol y byd. Rydyn ni’n dod at ein gilydd i ddathlu eiconau cwiar y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, felly gwisgwch eich dillad parti gorau ac ymunwch â'r chwyldro oherwydd gwrthsafiad yw Pride, ac fe fydd Pride bob amser yn wrthsafiad! 

Yn y clwb, rydyn ni’n un teulu mawr!

Sioe i bobl dros 18 oed yw hon, bydd iaith a themâu oedolion, noethni, a goleuadau'n fflachio.

Cwrdd â’r criw

EICH CYFLWYNYDD: Len Blanco - Len Blanco (@king_len_blanco) • Instagram photos and videos - nhw

Brenin drag, cerddor, digrifwr, awdur, actor, cyfarwyddwr a hwylusydd yw Len Blanco.
Cawson nhw eu disgrifio gan TimeOut fel cyflwynydd a chanwr sydd â “thalent aruthrol”, dywedodd WithinHerWords fod eu cymeriad dychanol a’u caneuon fel cyn-aelod o boi band yn “llawen ac yn gwbl wreiddiol” ★★★★★
Ers dechrau fel brenin drag yn 2016, efallai eich bod wedi gweld Len ar sawl llwyfan, gan gynnwys yn Theatr Soho (lle mae'n cynnal cyrsiau'n rheolaidd), Canolfan Southbank, Tŵr Blackpool, Canolfan Mileniwm Cymru, y Clapham Grand, Tafarn y Royal Vauxhall, The Glory, Clwb y Gweithwyr Bethnal Green, pabell yn Glastonbury, bws yng Nghaeredin, neu'n hanner noeth, yn llawn llwch llachar ac yn gweiddi ar draeth preifat ym Montenegro.

Efallai y byddwch chi'n eu hadnabod nhw o Nutcracker, yn chwarae rhan y gwrtharwr sy’n cael ei gamddeall, King Rat.

VIL - https://www.instagram.com/sheisvil/?hl=en - hi

VIL yw tywysoges drag draws Manceinion a’r berfformwraig bwrlésg, sy’n gweini glam femme uchel gydag ychydig o camp chwaethus. Yng nghwmni rhywun sy’n rhannol brenhines ac yn rhannol seren stripio, fe gewch chi wledd hudolus, gwirion a rhyfygus. Mae VIL yn rym pwysig yn y gymuned LHDTCRhA+ yng ngogledd orllewin Lloegr ac yn ymgyrchydd dros ymwybyddiaeth a dathlu pobl draws. Mae hi wedi ymddangos ar lwyfannau ledled y wlad ac yn fodel adnabyddus ar gyfer tai ffasiwn sy'n dod i'r amlwg. 


The Stiletto Prince - https://www.instagram.com/thestilettoprince/?hl=en - fe

The Stiletto Prince. Perfformiwr hypnotig a fydd yn eich denu i fyd o androgyniaeth, rhywioldeb ac angerdd drwy ei symudiadau technegol. Drwy gelfyddyd synhwyraidd stiletos, bydd yr hudwraig yn tanio'r llwyfan, yn gafael yn eich llaw, ac yn eich arwain i'w ffantasi. Yn goreograffydd ac athro gwych, mae wedi gweithio gyda'r goreuon yn y busnes ac yn parhau i arwain y ffordd gyda chreadigrwydd a mynegiant artistig, a hynny mewn stiletos uchel iawn. 

Felicity Felicis - https://www.instagram.com/felicity_felicis/?hl=en - hi

Felicity Felicis – y Berfformwraig Roc a Rôl – sy’n dod â blas sbeislyd i Fwrlésg dawnsio awgrymog clasurol. Gyda degawd o brofiad o berfformio ar draws llwyfannau ledled y byd ac wedi’i phleidleisio’n ddiweddar yn rhif 2 yn Ewrop ac yn rhif 28 allan o 50 Perfformiwr Mwyaf Dylanwadol y Byd (2025) gan gylchgrawn 21st Century Burlesque, mae hi’n cyfuno glam, dygnwch, a phŵer diymddiheuriad ym mhob perfformiad. 

Ers ei hymddangosiad bwrlésg cyntaf yn 2016, mae Felicity wedi cerfio gyrfa ryngwladol i’w hunan sydd wedi’i diffinio gan berfformiadau beiddgar a rheolaeth arbennig ar lwyfan. Wedi'i lleoli yn Berlin yn yr Almaen, mae hi'n berfformwraig boblogaidd ledled gwledydd Prydain, Ewrop, Unol Daleithiau America, a thu hwnt — ar hyn o bryd mae'n teithio ledled y byd gyda chwmni AIDA Cruises.


Cadbury Parfait - https://www.instagram.com/cadburyparfait/?hl=en - hi

Artist bwrlésg Du Cwiar yw Cadbury Parfait, a gafodd ei phleidleisio’n un o 50 perfformiwr mwyaf dylanwadol y byd yn 2023, 2024 a 2025. Mae hi'n berfformwraig ryngwladol ac arobryn sy'n perfformio bwrlésg clasurol gydag awgrym o hiwmor tafod-yn-y-boch Prydeinig - Pryfociwr Clasurol yn Gweini Sleaze Prydeinig. 

Mae Cadbury, a enillodd wobr “Mwyaf Clasurol” Wythnos Bwrlésg Berlin 2019, yn ymgorffori glam Hollywood hen ffasiwn a chraffter perfformwraig. Mae Cadbury hefyd yn hoffi gwthio ffiniau ac enillodd ei pherfformiad Maggie Thatcher Wobr Cabaret Central sef “Gwobr y Dychan a’r Sylwebaeth Gymdeithasol mwyaf Miniog”.

Mae 2026 yn nodi 10 mlynedd yn y busnes i Cadbury, ac efallai y byddwch chi'n ei hadnabod o'r Nutcracker yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2024 a'r fenyw hudolus yn y wisg felen oedd i’w gweld ar bosteri drwy’r adeilad i gyd. 


Molly Beth Morossa https://www.instagram.com/mollybethmorossa/?hl=en - hi/nhw

Perfformiwr cabare a drag dosbarth gweithiol, gwneuthurwr theatr a chynhyrchydd anneuaidd yw Molly Beth Morossa. Maen nhw’n adnabyddus am eu perfformiadau tywyll, theatrig a chomig. Mae eu gwaith yn aml yn cyfuno adrodd straeon, cabare cyfoes a chelf perfformio er mwyn archwilio naratifau cwiar rhyfygus a dosbarth. Nhw sefydlodd y sioe cwiar dywyll a ysbrydolwyd gan Weimar, RiffRaff Kabarett, a gyflwynwyd ar y cyd gan y fampir drag, Ruby Wednesday. Maen nhw’n berfformwyr rheolaidd gyda The Double R Club, un o’r sioeau cabaret yn Llundain sydd wedi rhedeg hiraf a ysbrydolwyd gan waith David Lynch. Maen nhw’n ymddiriedolwr ac yn gynhyrchydd ar gyfer Cabaret vs Cancer. Maen nhw wedi cydweithio ag enillydd Gwobr Olivier, Marisa CARNESKY, ar nifer o gynyrchiadau, gan gynnwys Dr Carnesky’s Incredible Bleeding Woman, Showwomen Sideshow Spectacular! A TarotDrome. Maen nhw wedi perfformio a churadu sioeau cabare yn rhyngwladol, yn ogystal â ledled y wlad gan gynnwys yn Glastonbury, yr Academi Frenhinol, Tate Modern, The Vaults, Gŵyl Latitude ac Oriel Courtauld. Fe wnaethon nhw ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio dwy sioe theatr unigol, Carnival of Crows (Enillydd Gwobr yr Actores Orau - Dark Chat 2012) a Greywing House (Enillydd Gwobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Vault yn 2017).

 

Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau

Oed: 18+

Rhybuddion: Iaith Gref a Noethni

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Cyflwynir yn

Cabaret

Cabaret

Gweld popeth
JT 1200x900

Cabaret

Joe Tracini: Ten Things I Hate About Me

Laura Lex Thumb

Laura Lexx: Yo-Yo Tour

Cabaret

RACHEL FAIRBURN: Vexy Beasts

Liebenspiel yn Cyflwyno

Clementine

Harriet_Kemsley_Floozy_1200_1800_thumb

Plosive Live mewn cydweithrediad ag United Agents yn cyflwyno…

HARRIET KEMSLEY

Gagged_Thumbnail

Cabaret and Littlewander yn cyflwyno

GAGGED Hydref

Gagged_Thumbnail

Cabaret and Littlewander yn cyflwyno

GAGGED Mehefin

michael-akadiri-uncle-800pxsq

Cabaret

Michael Akadiri: Don’t Call Me Uncle!

Pizazz1200x900

Presented by Mick Perrin Worldwide

Christopher Hall - Pizazz

Cabaret

Ginger Johnson - Show Pony

lorna wmc thumbnails

Lorna Rose Treen: Now That’s What I Call Characters

Press 01_Jess_Robinson_Elton_John_credit Chloe Hashemi

Cabaret

Jess Robinson: Elton Reimagined

7b76d0f6-e7c3-4c82-8c16-3d4ce6a8f9cd

Lee Martin ar ran Gag Reflex yn cyflwyno

Sooz Kempner: Imposter

Cabaret

VOX COLLECTIVE: ABBA

Untitled design (13)

Lee Martin ar ran Gag Reflex yn cyflwyno…

James Barr

Sorry I Hurt Your Son (Said My Ex To My Mum)

c584097f-6be9-4d70-a765-02ad7020f0ae

Cabaret

Sherry Vine: Dirty Blonde

47ae8470-95f4-4220-afa2-3baeb3a37042

Cabaret

Kae Kurd: Kae Kurd's Comedy Club on the Road

15f2c64a-2fca-4733-a711-2f786a91a7eb

Cabaret

Blues & Burlesque

a45baf15-21bf-4966-beb2-9535c3d09097

Cabaret

COWBOYS COMEDY!

Cabaret

Mark T Cox: Paddy Daddy

be072787-5174-4544-a0ac-6aab225f705f

Cabaret

Cabaret Bingo

f314fd15-a10c-4863-a70f-fbaa76139fa0

Cabaret

Cabaret Provocateur

2a83ce49-5377-493c-b64b-c3ae3566f948

Cabaret

Tom Ward

Post-Millennium Tension

8e97b049-14fd-488f-92d8-58e063d2d99d

Cabaret

Buffy the Vampire - Once More With Feeling!

Robert White - Thumb

Cabaret

Robert White

Little Wander yn cyflwyno

Eight - Thumb

Cabaret

EIGHT: The One (Wo)Man Drag King Musical Parody

Dragwyl - Thumb

Cabaret

DRAGWYL

Oola_s Cabaret Quiz_June28th_What_s on Thumbnail_WMC(1200 x 900 px)(1)

Cynhyrchwyd gan Quill & Pearl Presents

OOLA’S CABARET QUIZ

Produced by Quill & Pearl Presents

Shellyann (Facebook Post) - 1 (1)

Cabaret

Shelly Ann

427da469-715f-4f54-ba8b-d58a5c7fd9f7

Parfait Presents:

A Queer Icons Cabaret

Cabaret

Showgirls and Sharks

Trunk of Funk

Cabaret Monthly Jazz Night

Trunk of Funk

Cabaret

THE SCHITTS SHOW

Shrektacular 1200x900

Cabaret

Shrektacular

Cabaret

The Pearl Revue

Cabaret

Alison Jiear

Cabaret

TEZ ILYAS: TEZ THINGS I HATE ABOUT YOU

Cabaret

Judith Owen

Dan Costa - Thumb

Cabaret

Dan Costa

Jive Aces 2

Cabaret

Jive Aces

4a9aed80-2057-40b6-b4aa-7a3e95d92484

Cabaret

In Memory of Amy

Cabaret

Quartey & Blayney

A Work in Progress Sketch Show

Rat Pack

Cabaret

The Rat Pack, Las Vegas Live!

Camille O'Sullivan - Loveletter

Linley Hamilton - thumb

Cabaret Monthly Jazz Night

Linley Hamilton Quintet

Deviant - thumb

Cabaret

The Vaguely Deviant

Not Even Remotely Christmas Australian Summer Show

THUMBNAIL

Cabaret

Glenda & Rita

Steph Webber

Cabaret

Steph Webber - Glittering Nights

Cowboy Thumb

Cabaret

COWBOYS COMEDY

Cabaret

Big Band Burlesque

Gal Cab - Thumb

Cabaret

Galifrey Cabaret