Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad a Theatr Cymru yn cyflwyno Calon.
Sioe gerdd gyfoes wreiddiol gan Caryl Parry Jones, Non Parry, Elan a Miriam Isaac a fydd yn taflu goleuni newydd ar glasuron Caryl ac yn dathlu y wledd o ganeuon a gyfansoddwyd ganddi ar hyd y degawdau.
Mae plasdy, Cae’r Lonydd wedi gweld dyddiau gwell. Dod â bywyd newydd i'r lle ydy her y criw ifanc sydd wedi eu taflu at ei gilydd. Ond er gwaetha'r amheuon a thrwy wên a dagrau, chwerthin a dygnwch, efallai bod peledr o obaith a chyfle iddyn nhw brofi eu haf gorau erioed. Nes i ymwelydd arall gyrraedd Cae’r Lonydd i gynhyrfu'r dyfroedd ac i osod yr her fwyaf un...
Amser dechrau:
Iau – Sad 7.30pm
Sad 2.30pm
Canllaw oed: 11+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)