GODIDOG | GOSGEIDDIG | TRAWSFFURFIOL
Britten An American Overture
Joan Tower Love Letters [Premiere DU]
Weber Symffoni Rhif 2
Trawsffurfiad Symffonig Themâu gan Carl Maria von Weber
Yn cyfuno’r Britten nodweddiadol â sawrau Coplandaidd ac awgrymiadau jazz, American Overture gan Britten sy’n agor y noson heno dan faton yr enwog Tomas Djupsjöbacka, cyn i’r sacsoffonydd disglair Steven Banks ymuno â Cherddorfa Gymreig y BBC ar gyfer première y Deyrnas Unedig o Love Letters gan Joan Towers, gwaith er cof am ei diweddar ŵr, sydd, er yn llawn hiraeth a thristwch, yn llifeiriant diddiwedd o ras a thynerwch.
I ddathlu 100 mlynedd ers ei farwolaeth, cawn brofi Weber trwy lygaid Hindemith wrth i ni droi at ei Drawsffurfiad Symffonig o Themâu gan Weber, lle mae’n cymryd rhai o themâu mwyaf anghyfarwydd Weber ac, er ei fod yn dyfynnu’r gerddoriaeth yn uniongyrchol, yn newid popeth o’u cwmpas yn radical, o’r harmoni a’r alawon eilaidd i’r estyniadau melodig a’r trefniannau cerddorfaol. Ond yn gyntaf, cawn berfformiad o Ail Symffoni ddigri a swynol Weber ei hun.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser dechrau: 7:30pm
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
ANABIL A DIGFLOGEDIG
£10
DROS 65 OED
£12
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.