Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Chwarae Opera YN FYW: Llongddrylliad!

18 Ebrill 2026

Theatr Donald Gordon

Hwyliwch ar y moroedd dyfnion yn ein sioe deuluol ryngweithiol  

Ahoi, fy nghyfeillion! Mae’r hwyliau i fyny ac mae Chwarae Opera YN FYW yn ôl - ond y tro hwn rydym wedi ein llongddryllio!  

Mae ein capten dewr, Tom Redmond yn sownd ar ynys ddiffaith, ond nid ydym yn poeni’n ormodol gan ei fod yng nghwmni gwych ei griw, sef Cerddorfa a chantorion ffydlon WNO. Gyda’n gilydd, byddwn yn eich cyflwyno i amryw o offerynnau’r gerddorfa, ynghyd â’r alawon y fydd yn eich tywys ar daith yng nghwmni ein cantorion talentog drwy ganeuon, straeon ac wrth gwrs, y gerddoriaeth wych o’r llwyfan a’r sgrîn, ein ffefrynnau i’w perfformio!  

Mae’r sioe ryngweithiol ac addysgiadol hon sy’n addas i’r teulu cyfan yn gyflwyniad perffaith i fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol. Bydd y naws ymlaciol yn eich galluogi i ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth, y stori a’r ddrama wrth i ni fentro dros y tonnau a dod a Tom â’i griw yn ôl i dir sych.  

Nid dyma yw diwedd yr antur! Cyn i chi fynd ar HMS WNO, ymunwch â ni yn y cyntedd i brofi hud cefn llwyfan opera yn ystod ein gweithgareddau cyn y sioe, o 1pm. Dewch i weld ein gwisgoedd, gwneud eich propiau eich hun a phrofi eich sgiliau mewn gorsafoedd goleuo a sain. Os nad yw hynny’n ddigon, mae yna helfa drysor - ond, gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod y trysor cyn y môr-ladron drygionus!  

Mae'r perfformiad yn para tua awr, ac nid oes egwyl.  

 

wno.org.uk/playoperalive
#WNOplayopera

Amser dechrau: 3pm

Hyd y perfformiad: tua 1 awr a 10 munud heb egwyl

CYNNIG TOCYN TEULU

Prynwch docyn teulu a gallech arbed hyd at 1/3

Teulu o bedwar: £45 (uchafswm o ddau oedolyn)
Teulu o bump: £50 (uchafswm o ddau oedolyn)

Rhaid archebu’r cynnig hwn ar ei ben ei hun – bydd angen prosesu unrhyw docynnau ychwanegol fel archeb newydd.   

O DAN 16

Tocyn am £10 wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

 

TOCYN BABANOD

Tocynnau £2 eistedd ar liniau i blant dan 2 oed, wrth archebu gydag oedolyn sy'n talu am docyn pris llawn.

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Teuluoedd

Gweld popeth

Chwarae Opera YN FYW: Llongddrylliad!

Bluey's Big Play

Matilda The Musical

Bill Kenwright Ltd yn cyflwyno

Barnum

Cynhyrchiad Y Watermill Theatre

horriblehistories-thum

Horrible Histories - The Concert

Live (and dead) on stage!

Mary Poppins

Opera Cenedlaethol Cymru

Gweld popeth

Opera Cenedlaethol Cymru: Noson yn yr Opera

Opera Cenedlaethol Cymru: The Flying Dutchman

Chwarae Opera YN FYW: Llongddrylliad!

Opera Cenedlaethol Cymru: Blaze Of Glory!

Opera Cenedlaethol Cymru: Candide

Bernstein

Opera Cenedlaethol Cymru: Tosca