Mae gan Lady Clementine tan ei phen-blwydd yn 27 oed i ddod o hyd i’r Un.
Pan mae ei chariad diweddaraf yn mynd ar goll, mae hi’n mynd ar chwilfa wallgof a doniol i ddatrys dirgelwch ei hanffawd. Ond heb synnwyr na theimladrwydd, a fydd ein harwres ramantus yn dod o hyd i gariad mewn pryd?
Boneti yn barod ferched, ar gyfer sioe gomedi gymeriad gyntaf y tymor (y Sgorpion).
Bridgerton meets Gen-Z Jane Austen on Adderall
Amser dechrau: 7:00pm, doors 6pm
Canllaw oed: 16+ (dim plant o dan 16 oed)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret