Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Novaya [Colored/Noire] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

27 Mai – 26 Mehefin 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin {{::on_sale_date.label}} MM/DD/YYYY 15 event-2924

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

27 Mai – 26 Mehefin 2026

Mae’r profiad yma’n rhan o Wobr Annwn, gwobr fyd-eang newydd sy’n dathlu straeon ymdrochol gan artistiaid o bob cwr o’r byd. Wedi’u henwebu gan gymuned ryngwladol o guradwyr a sylwebwyr, mae pedwar darn o waith y rhestr fer yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan eich gwahodd i gamu i mewn i’r stori. Pedwar byd, un lleoliad.

Ail-ddeffro'r hanes anghofiedig.

Rydyn ni yn Montgomery, Alabama, yng nghanol taleithiau gwahanedig de’r Unol Daleithiau, ar fws 2.30pm, ar 2 Mawrth 1955. Mae Claudette Colvin, merch Ddu 15 oed, yn gwrthod ildio’i sedd i deithiwr gwyn. Er gwaethaf bygythiadau, mae’n aros yn ei sedd. Ar ôl cael ei thaflu i’r carchar, mae'n penderfynu erlyn y ddinas a phledio'n ddieuog. Ar y pryd, doedd neb byth yn meiddio gwneud y fath beth. Ac eto, does neb yn cofio’i henw.

Mae Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin yn brofiad trochol sydd wedi’i addasu o ysgrif fywgraffyddol, a ysgrifennwyd gan Tania de Montaigne, sy’n olrhain hanes Claudette Colvin a’i thaith o frwydr i gael ei gadael.

Pan ailadroddodd Rosa Parks yr un weithred naw mis yn ddiweddarach, newidiodd popeth. Gyda chefnogaeth gweinidog ifanc a oedd wedi cyrraedd Montgomery yn ddiweddar, sef Martin Luther King Jr., daeth Rosa Parks yn arwres ac yn wreichionen a daniodd y mudiad hawliau sifil. Crëwyd hanes. Claudette Colvin wnaeth y cyfan yn bosib, ond hi yw'r un sydd wedi cael ei hanghofio. 

Mae Colored yn tynnu'r gynulleidfa i mewn i leoliad a fydd cyn hir yn llawn o ysbrydion Alabama'r pumdegau. Diolch i realiti estynedig, sy’n caniatáu yn fwy na’r un dechnoleg arall i'r presennol gwrdd â'r gorffennol, gall stori Claudette ddod yn stori i ni, gan osod ei hunan yn ein hatgofion fel eiliad 'fyw' yn ein profiad ni ein hunain lle gallwn ni i gyd ddod yn dystion i'r weithred arwrol yma.

Mewn set a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer y profiad, bydd golygfeydd eiconig o fywyd Claudette Colvin yn ystod ei brwydr dros hawliau sifil yn cael eu hailchwarae o flaen eich llygaid. P'un a fyddwch ar eich pen eich hunan neu yng nghwmni rhywun, cewch ymuno â'ch cyfoedion mewn cyd-brofiad penset.

'Colored: The Unsung Life of Claudette Colvin', wedi’i gyfarwyddo gan Stéphane Foenkinos a Pierre-Alain Giraud, yn seiliedig ar waith Tania de Montaigne, wedi’i gynhyrchu gan Novaya mewn partneriaeth â'r Centre Pompidou, a’i gyd-gynhyrchu gyda Flash Forward Entertainment (Taiwan).

Enillydd y Wobr am Waith Ymdrochol Gorau y 77fed Festival de Cannes. 

Gyda chefnogaeth

CNC, Canolfan Genedlaethol y Sinema a'r Ddelwedd Symudol

Rhanbarth Auvergne-Rhône-Alpes

Grant Cynnwys Ymdrochol TAICCA ar gyfer Cyd-ariannu neu Gydgynhyrchiadau Rhyngwladol

Y Sefydliad Ffrengig

FACE FOUNDATION fel rhan o'r rhaglen 'French Immersion'.

BPI France

104factory

104 Paris

4DViews

4J

L-Isa

IPLlab (Taiwan)

ROSCO

IRCAM

PIXII

Clodrestr

Tîm Craidd

Pierre-Alain Giraud
Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr

Stéphane Foenkinos
Cyfarwyddwr

Tania De Montaigne 
Awdur 

Emanuela Righi 
Cynhyrchydd

Patrick Mao Huang
Cyd-gynhyrchydd

Christa Chen
Cyfarwyddwr Cynhyrchu Taiwan

Mathieu Denuit
Cyfarwyddwr Technegol

Pierre-Luc Denuit 
Peiriannydd Systemau

Valgeir Sigurðsson
Dyluniad Cerddoriaeth a Sain Gwreiddiol

Nicolas Becker 
Dylunydd Sain

Philippe Berthomé 
Dylunydd Goleuo

Laurence Fontaine
Dylunydd Set

Chia Hui Wang 
Dylunydd Gwisgoedd

Louis Moreau
Artist 3D

Archebu Tocynnau:

Gallwch chi archebu ar gyfer pob profiad unigol drwy glicio ar y tudalennau isod a dewis pris eich tocyn ac amser:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £6 / Consesiwn £5
Safonol: £8
Consesiwn: £6
 
Wrth archebu ar gyfer y 4 profiad ar yr un pryd (gall hyn fod ar gyfer dyddiadau gwahanol, ond rhaid archebu mewn un trafodiad) byddwch chi’n cael gostyngiad:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £20 / Consesiwn £18
Safonol: £25
Consesiwn: £20

Ysgolion, colegau a phrifysgolion, cysylltwch â ni'n uniongyrchol am becyn pwrpasol yn tocynnau@wmc.org.uk.
 
Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw rheoli eich amser rhwng profiadau os byddwch chi’n archebu ar gyfer mwy nag un mewn diwrnod. Cofiwch ystyried hyd y profiadau (sydd wedi’u nodi ar dudalennau’r profiadau), symud rhwng lleoliadau a chyfyngiadau eraill ar amser a all fod tu hwnt i’n rheolaeth. Ni fydd bob amser yn bosibl eich symud chi yn awtomatig i’r slot amser nesaf.

Oriau Agor:

Dydd Mawrth-Dydd Iau: 12pm – 8.45pm (Mynediad olaf 8pm)
Dydd Gwener-Dydd Sul: 11am – 8.45pm (Mynediad olaf 8pm)

Hyd y profiad: 35 munud. Caniatewch 50 munud ar gyfer sesiwn friffio a dadfriffio. Dylech chi gyrraedd 5 munud cyn eich slot er mwyn paratoi. Mae'n bosibl na fyddwch chi'n cael mynediad os byddwch chi’n hwyr.

Capasiti: 8

Cyfyngiad oed: 13+
Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn.

Hygyrchedd: Mae hwn yn brofiad sefyll a cherdded 40 munud o hyd sy’n gallu cael ei addasu ar gyfer pobl sydd â thrafferthion symud. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) fel y gallwn ni wneud addasiadau ar eich cyfer.

Rhybuddion: Themâu hiliaeth a thrais; cyfeiriadau at drais rhywiol; iaith gref ac agored hiliol; gall gynnwys delweddau sy'n fflachio

Iaith: Caiff y profiad ei gyflwyno yn Ffrangeg a Saesneg. Byddwch chi’n gallu dewis pa iaith cyn dechrau’r profiad.

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw profiad realiti estynedig?
Mae Realiti Estynedig (AR) yn cyfuno’r byd go iawn â chynnwys digidol, gan greu profiad ymdrochol amlsynhwyraidd. Ar gyfer y profiad yma, byddwch chi’n gwisgo penset realiti estynedig Hololens 2 (sy’n pwyso 566g) a chlustffonau Bose.

Profiad realiti estynedig yw Colored sy’n eich cludo i’r Unol Daleithiau, i Montgomery yn Alabama ar 2 Mawrth, 1955. Mewn lleoliad sydd wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer y profiad, caiff y golygfeydd arwyddluniol o fywyd Claudette Colvin eu hailchwarae o’ch blaen yn ystod ei brwydr dros hawliau sifil. P’un a ydych chi ar eich pen eich hun neu mewn cwmni, byddwch chi’n gallu ymuno â’ch cyfoedion mewn profiad cyfunol.

Alla i wisgo fy sbectol?
Gallwch chi wisgo sbectol o dan y penset ond efallai bydd yn fwy cyfforddus i chi wisgo lensys cyffwrdd neu beidio â gwisgo’ch sbectol yn ystod y profiad.

Y maint mwyaf o sbectol sy’n gallu cael ei wisgo gyda’r penset yw 142mm o hyd a 50mm o uchder.

Beth yw'r mesurau iechyd a diogelwch?
Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Estynedig. Fodd bynnag, gall AR fod yn ddryslyd i unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, trawiadau, salwch teithio neu lewygu.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn ni'n glanhau a diheintio’r holl offer, gan gynnwys pensetiau, yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty cyn pob defnydd.

Rhaid i bobl o dan 16 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ni argymhellir y profiad yma i bobl o dan 13 oed am na fydd y penset yn eu ffitio’n gywir.

Ni chaniateir babis mewn gwregys yn y profiad.

Ni fydd unrhyw westeion sy’n cyrraedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan yn y profiad.

Profiadau Ymdrochol

Gweld popeth
Novaya [Colored/Noire] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

Andrew Schneider [NOWISWHENWEARE (the stars)] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

sister sylvester [Constantinopoliad] courtesy of Jill Steinberg

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Constantinopoliad

Wedi'i greu gan sister sylvester

Karen Palmer [Consensus Gentium]

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer

Gwobr Annwn 2026

Gweld popeth
Novaya [Colored/Noire] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

Andrew Schneider [NOWISWHENWEARE (the stars)] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

sister sylvester [Constantinopoliad] courtesy of Jill Steinberg

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Constantinopoliad

Wedi'i greu gan sister sylvester

Karen Palmer [Consensus Gentium]

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer