Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Karen Palmer [Consensus Gentium]

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer

Bocs

27 Mai – 26 Mehefin 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Consensus Gentium {{::on_sale_date.label}} Bocs MM/DD/YYYY 15 event-2933

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer

27 Mai – 26 Mehefin 2026

Bocs

Mae’r profiad yma’n rhan o Wobr Annwn, gwobr fyd-eang newydd sy’n dathlu straeon ymdrochol gan artistiaid o bob cwr o’r byd. Wedi’u henwebu gan gymuned ryngwladol o guradwyr a sylwebwyr, mae pedwar darn o waith y rhestr fer yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan eich gwahodd i gamu i mewn i’r stori. Pedwar byd, un lleoliad.

“I gynnig gweledigaeth o’r dyfodol a dealltwriaeth well o’r rolau y gallen ni ei chwarae ynddo” – Karen Palmer

Mae Consensus Gentium – ymadrodd Lladin sy’n golygu “os mae pawb yn ei gredu, rhaid iddo fod yn wir” – yn brofiad rhyngweithiol sy’n bwriadu sbarduno trafodaethau am breifatrwydd data, rhagfarnau diarwybod a phŵer technoleg.

Mae’r ffilm ryngweithiol yma yn eich gwahodd i wneud penderfyniadau sy’n helpu i lywio’r stori ei hun. Gan ymgorffori technoleg canfod wynebau a Deallusrwydd Artiffisial, caiff cynulleidfaoedd eu cludo ar chwilfa unigryw i ddarganfod beth allai ddigwydd be baen ni’n ildio i wyliadwriaeth heb wiriadau. Drwy brofiad yn seiliedig ar ffôn clyfar, mae cyfranogwyr yn camu i mewn i rôl rhywun sy’n gobeithio ymweld â’u mam-gu sy’n sâl, gan ddefnyddio Ap Dinesydd Byd-Eang wedi’i redeg gan y llywodraeth sy’n penderfynu statws symudedd drwy fonitro cyson. Gan ddefnyddio technoleg canfod wynebau a Deallusrwydd Artiffisial, mae’r ffilm yn darllen eich mynegiadau a’ch penderfyniadau mewn amser go iawn, gan greu taith unigryw a phersonol sy’n datgelu sut y gall systemau digidol ddylanwadu ar, neu gyfyngu ar, ryddid personol.

Gwnaeth y pwyllgor dewis ganmol ei naratif emosiynol wedi’i arwain gan y cyfranogwr sy’n archwilio dinasyddiaeth ddigidol, galluedd a goruchwyliaeth mewn ffordd bwerus – lle mae pob dewis gan y cyfranogwr yn adlewyrchu cwestiynau brys am ein dyfodol cysylltiedig. 

Clodrestr

Karen Palmer
Awdur a Chyfarwyddwr

Lizzie Francke
Cynhyrchydd Gweithredol

Kristin Irving
Cynhyrchydd Gweithredol

Tom Millen
Cynhyrchydd

Thalia Mavros
Cynhyrchydd

Jackson Lapsley Scott
Cynhyrchydd

Tuyet Vân Huynh
Cynhyrchydd

Jack Foster
Golygydd

Anthony Gurner
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth

Tom Paris
Dylunydd Cynhyrchu

Cesare Marchese
Cyfansoddwr

Colin Emmanuel
Cyfansoddwr

Gyda chefnogaeth

British Film Institute (BFI)

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Arts Council England

Archebu Tocynnau:

Gallwch chi archebu ar gyfer pob profiad unigol drwy glicio ar y tudalennau isod a dewis pris eich tocyn ac amser:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £6 / Consesiwn £5
Safonol: £8
Consesiwn: £6
 
Wrth archebu ar gyfer y 4 profiad ar yr un pryd (gall hyn fod ar gyfer dyddiadau gwahanol, ond rhaid archebu mewn un trafodiad) byddwch chi’n cael gostyngiad:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £20 / Consesiwn £18
Safonol: £25
Consesiwn: £20

Ysgolion, colegau a phrifysgolion, cysylltwch â ni'n uniongyrchol am becyn pwrpasol yn tocynnau@wmc.org.uk.
 
Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw rheoli eich amser rhwng profiadau os byddwch chi’n archebu ar gyfer mwy nag un mewn diwrnod. Cofiwch ystyried hyd y profiadau (sydd wedi’u nodi ar dudalennau’r profiadau), symud rhwng lleoliadau a chyfyngiadau eraill ar amser a all fod tu hwnt i’n rheolaeth. Ni fydd bob amser yn bosibl eich symud chi yn awtomatig i’r slot amser nesaf.

Oriau Agor

Mawrth–Iau: 12pm – 8.15pm (Mynediad olaf 7.45pm)

Gwener–Sul: 11.15am – 8.15pm (Mynediad olaf 7.45pm)

Hyd y profiad: 25 munud. Caniatewch 35 munud ar gyfer sesiwn friffio a dadfriffio.

Capasiti: 12

Canllaw Oed: 13+

Hygyrchedd: Profiad ar eich eistedd yw hwn; bydd mynediad i gadeiriau olwyn. Byddwch chi’n defnyddio ffonau clyfar fel grŵp drwy gydol y profiad yma. Mae capsiynau ar gael.

Rhybuddion: Yn cynnwys bygythiad ysgafn

Iaith: Saesneg

Cwestiynau Cyffredin

Beth alla i ddisgwyl o’r profiad?

Mae Consensus Gentium yn brofiad realiti cymysg drwy dechnoleg iPhone.

Pa offer sydd eu hangen i gymryd rhan yn y profiad?

Byddwch chi’n defnyddio iPhone gyda chlustffonau i ryngweithio â’r profiad – bydd y rhain yn cael eu darparu a’u gosod gan ein staff hyfforddedig.

Beth yw’r mesurau iechyd a diogelwch?

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim yn profi unrhyw ymatebion negyddol i Realiti Estynedig. Fodd bynnag, gall AR fod yn ddryslyd i unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, trawiadau, salwch teithio neu lewygu.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Rydyn ni'n glanhau a diheintio’r holl offer yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty cyn pob defnydd.

Ni fydd unrhyw westeion sy’n cyrraedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan yn y profiad.

A fydd y profiad yn storio fy nata?

Na dyw'r profiad ddim yn cadw unrhyw ddata. 

Cyflwynir yn

Bocs

Profiadau Ymdrochol

Gweld popeth
Novaya [Colored/Noire] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

Andrew Schneider [NOWISWHENWEARE (the stars)] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

sister sylvester [Constantinopoliad] courtesy of Jill Steinberg

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Constantinopoliad

Wedi'i greu gan sister sylvester

Karen Palmer [Consensus Gentium]

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer

Gwobr Annwn 2026

Gweld popeth
Novaya [Colored/Noire] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

Andrew Schneider [NOWISWHENWEARE (the stars)] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

sister sylvester [Constantinopoliad] courtesy of Jill Steinberg

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Constantinopoliad

Wedi'i greu gan sister sylvester

Karen Palmer [Consensus Gentium]

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer