Mae’r profiad yma’n rhan o Wobr Annwn, gwobr fyd-eang newydd sy’n dathlu straeon ymdrochol gan artistiaid o bob cwr o’r byd.Wedi’u henwebu gan gymuned ryngwladol o guradwyr a sylwebwyr, mae pedwar darn o waith y rhestr fer yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan eich gwahodd i gamu i mewn i’r stori. Pedwar byd, un lleoliad.
Gwaith sinema estynedig sy’n ymgasglu ei gynulleidfa ar gyfer gweithred o ddarllen ar y cyd.
Nid stori yn unig yw Constantinopoliad; mae’n wahoddiad i ddarganfod. Mae’n cyfuno naratif a gweithred, gan wneud i ni deimlo mai ni yw’r cyntaf i ddod o hyd i’r archif yma, y cyntaf i ddatgelu stori Cavafy, i roi bywyd i’w eiriau. Mewn ymateb i archif y bardd Constantine Cavafy, mae’r stori wedi’i hysbrydoli gan y tudalennau gwag ac wedi’u rhwygo allan yn Constantinopoliad, an Epic, y dyddiadur a ddechreuodd Cavafy yn ei arddegau pan wnaeth e a’i deulu ffoi o Alexandria; gan archifau coll a chwiar drwy amser; a gan yr ysbrydion, erotig a hanesyddol, sy’n ymweld â’r Cavafy hŷn yn ei gerddi.
Gwnaeth y pwyllgor dewis ganmol ei ddefnydd o gyffwrdd, delweddau, sain a geiriau i greu profiad llawn bywyd i gynulleidfaoedd – gan eich gwahodd i fynd ar daith i ddychymyg Cavafy ifanc wrth iddo archwilio ei botensial creadigol a’i rywioldeb.
"Fy hoff ymateb i’r gwaith yma oedd aelod o’r gynulleidfa a ddisgrifiodd e fel ‘caru gyda dieithryn drwy lyfr’.
Mae’r gwaith yn gwahodd cynulleidfaoedd i gyfarfod chwantus a phendant gyda bywyd a cherddi Cavafy: bysedd yn cysylltu â hanes; golau yn datgelu lluniau rhwng y tudalennau; synau yn consurio ysbrydion cabaret Alecsandraidd o’r 19eg ganrif.
Gyda geiriau gan sister sylvester, sgôr gan Nadah El Shazly a darluniadau gan Efrîn Özyetis, mae Constantinopoliad yn gyfarfod amlsynhwyraidd â’r gorffennol a straeon coll sy’n gallu ein dychryn ni i ddychymyg newydd ar gyfer y presennol.” – sister sylvester
Clodrestr
Lluniwyd, cyfarwyddwyd ac ysgrifennwyd gan sister sylvester
Sgôr gan Nadah El Shazly
Darluniadau a chyd-dyluniad llyfr gan efrîn ozyetis
Goleuo gan Cosette (Ettie) Pin
Yn seiliedig ar ddyluniad gan Bruce Steinberg
Sleidiau gan Jeremy Kadetsky
Yn seiliedig ar ddyluniad gan Tei Blow
Dramayddiaeth gan Andrew Kircher
Gyda chefnogaeth
Sefydliad Onassis
Archif Cavafy
Archebu Tocynnau:
Gallwch chi archebu ar gyfer pob profiad unigol drwy glicio ar y tudalennau isod a dewis pris eich tocyn ac amser:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £6 / Consesiwn £5
Safonol: £8
Consesiwn: £6
Wrth archebu ar gyfer y 4 profiad ar yr un pryd (gall hyn fod ar gyfer dyddiadau gwahanol, ond rhaid archebu mewn un trafodiad) byddwch chi’n cael gostyngiad:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £20 / Consesiwn £18
Safonol: £25
Consesiwn: £20
Ysgolion, colegau a phrifysgolion, cysylltwch â ni'n uniongyrchol am becyn pwrpasol yn tocynnau@wmc.org.uk.
Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw rheoli eich amser rhwng profiadau os byddwch chi’n archebu ar gyfer mwy nag un mewn diwrnod. Cofiwch ystyried hyd y profiadau (sydd wedi’u nodi ar dudalennau’r profiadau), symud rhwng lleoliadau a chyfyngiadau eraill ar amser a all fod tu hwnt i’n rheolaeth. Ni fydd bob amser yn bosibl eich symud chi yn awtomatig i’r slot amser nesaf.
Oriau Agor:
Mawrth–Iau: 12pm–8.45pm (mynediad olaf 7.45pm)
Gwener–Sul: 11am–8.45pm (mynediad olaf 7.45pm)
Hyd y Profiad: 52 munud. Caniatewch 1 awr 5 munud ar gyfer sesiwn friffio.
Capasiti: 20 – 4 person ar bob bwrdd
Canllaw Oed: 13+
Hygyrchedd: Profiad ar eich eistedd yw hwn; bydd mynediad i gadeiriau olwyn, ond bydd hyn yn gyfyngedig fesul slot amser.
Rhybuddion: Mae'n archwilio themâu aeddfed ac yn cynnwys darluniau noeth o natur rywiol.
Iaith: Saesneg
Cwestiynau Cyffredin
Beth alla i ddisgwyl o’r profiad?
Mae Constantinopoliad yn brofiad darllen clyweledol ar y cyd wedi’i arwain gan adroddwr, gyda goleuadau a thafluniadau o fewn y gosodwaith. Mae lle i 4 ar bob bwrdd, felly bydd disgwyl i chi eistedd ar fwrdd ar wahân i’ch parti os bydd angen.
Pa offer sydd eu hangen i gymryd rhan yn y profiad?
Bydd y gynulleidfa yn rhyngweithio â llyfrau wedi’u gwneud â llaw, ynghyd â thafluniadau a goleuadau’r amgylchedd.
Beth yw’r mesurau iechyd a diogelwch?
Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.
Rydyn ni'n glanhau a diheintio’r holl offer yn drylwyr â weipiau gwrthfacteria o safon ysbyty cyn pob defnydd.
Ni fydd unrhyw westeion sy’n cyrraedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan yn y profiad.