Mae noson gomedi wylltaf Caerdydd ‘NÔL.
Mae’r cabaret comedi Wild West a werthodd allan yn dychwelyd ar gyfer noson o anhrefn yn y salŵn. Gallwch chi ddisgwyl stand-yp anhygoel, bwrlésg sasi a drag ardderchog mewn cabaret Wild West yn llawn egni a heb reolau.
Wedi’i gyflwyno gan y siryf drwg Cowboy Joe, mae Cowboys Comedy! yn noson llawn egni ar gyfer herwyr, pobl ryfedd a chowbois sy’n hoffi comedi sydd ychydig yn wallgof.
'Cardiff's hottest comedy night is here'
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Anweddus
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret