HUDOLUS | BYWIOG | THEATRIG
Stravinsky | Cân yr Eos
Brahms | Concerto i Ffidil a Soddgrwth
Rachmaninov | Dawnsiau Symffonig
Daw’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft i’r podiwm ar gyfer ei gyngerdd olaf yn y swydd wrth i ni ddirwyn ein Tymor 2025-26 i ben, gan ddechrau gyda chathl symffonig Stravinsky, Cân yr Eos. Yn seiliedig ar stori dylwyth teg gan Hans Christian Andersen, cawn hanes ymerawdwr yn ei balas Tsieineaidd crand a chân ogoneddus yr eos sy’n gyfeiliant i’w fywyd.
Wedyn, bydd ein sylw i gyd ar flaenwr Cerddorfa Gymreig y BBC, Lesley Hatfield, ynghyd â’r cyn-brif soddgrwth Alice Neary, ar gyfer Concerto Dwbl Brahms, cyn inni archwilio Rachmaninov ar ei fwyaf dyfeisgar. Â’i harmonïau melys newidiol a’r bywiogrwydd rhythmig sy’n nodweddiadol o’i arddull diweddarach, mae cyfansoddiad cyflawn olaf Rachmaninov, ei Ddawnsiau Symffonig, yn defnyddio motiffau sy’n deillio o gerddoriaeth Eglwys Rwsia ynghyd â dyfyniadau o’i symffoni gyntaf ei hun, gan greu cymanfa gynhyrfus rhwng hiraeth am a fu a phrysurdeb y ddinas fawr ac egni mawr yr ‘America Fodern’.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser cychwyn: 7.30pm
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
ANABIL A DIGYFLOGEDIG
£10
DROS 65 OED
£12
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.