Mae’r seren cabaret ryngwladol Deeva D yn eich gwahodd i’w iard chwarae bersonol yn llawn cyffro, nwydusrwydd a chomedi camp!
Yng nghwmni ei hoff actau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys tri o berfformwyr bwrlésg gorau’r DU, mae sioe Deeva D yn rifiw cabaret sy’n eich annog chi i fod yn ddrwg, yn neis a bob amser ychydig yn amheus!
Yn ymuno â’r lein-yp mae’r sêr rhyngwladol Sadie Sinner, Lady Wildflower a Victoria Rose, ochr yn ochr â Frisky Whispers a’r dywysoges ‘Poi-lesque’ Miss Chelsey Buns! Gallwch chi ddisgwyl lleisiau teimladwy, bwrlésg trydanol, digonedd o chwerthin a strip-bryfocio fel na welsoch erioed o’r blaen.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret