Boneddigion a boneddigesau! Paratowch ar gyfer band bechgyn newydd Llundain y DRAGON BOIZ!
Yn dod o bob cwrs o Asia! Siwgr, sbeis a phopeth reis! Bydd y bechgyn yma yn eich pryfocio a’ch gogleisio gyda’u doniau aruthrol! Os ydych chi’n hoffi Magic Mike a Showgirls dyma’r sioe i chi!
Gyda threfnau cymysg a pherfformiadau unigol, sioe Dragon Boiz yw’r noson lle byddan nhw’n eu rhyddhau eu hunain i chi! Gallwch chi ddisgwyl gweld strip-bryfocio, dawnsio, nifer o actau grŵp, comedi a lleisiau byw. Dim strapiau, dim cadwyni ond efallai harneisiau, gadewch i’r band bechgyn yma ddwyn eich calonnau.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Noethni, Iaith Gref, Goleuadau'n Fflachio
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret