SHWMAE BAWB! Ydyn, mae criw lliwgar, lloerig Dragwyl wedi'u cynhurfu'n lân i ddod nôl i Cabaret i ddathlu'u pumed flwyddyn o Drag iaith Gymraeg!
Gyda Tafwyl yn 20 oed eleni, mae eu plentyn drag drwg yma i'ch diddanu a chodi gwên ddireidus. O mama'r criw, Connie Orff, yn feistres seremonïau, i seren Rupaul's Drag Race UK, Catrin Feelings, mi fydd y teulu cyfan yn dod ag ambell syrpreis annisgwyl am un noson fythgofiadwy.
Os yn siaradwr rhugl neu'n ddysgwyr, mae croeso ffabiwlys i bawb! Bachwch eich tocyn cyn gynted â phosib gan fod dathliadau Dragwyl yn dueddol o werthu allan, a ma' hon yn addo bod yn noson sbeshal dros ben.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref, Fflachio a Strob
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret