Roedd Dusty Springfield, y gantores eiconig o’r 1960au hyd at ei chydweithrediad gyda’r Pet Shop Boys yn yr 80au, yn drac sain cenhedlaeth.
Mae ei dehongliadau o ganeuon o You Don’t Have To Say You Love Me i I Just Don’t Know What To Do With Myself yn dal i fod yn glasuron oes.
Mae’r pianydd a’r trefnydd Janette Mason, a gafodd ei henwebu fel Offerynnwr Jazz y Flwyddyn yn ddiweddar ac mae ei chredydau yn cynnwys Oasis a Pulp, wedi ymuno â’r artist recordio a chyfansoddwr caneuon arobryn Jo Harrop i berfformio noson agos atoch o fersiynau acwstig yn tynnu sylw at yrfa ryfeddol Dusty.
Janette Mason – Cyfarwyddwr Cerddorol/Piano
Jo Harrop – Llais
Simon Little – Bas
“Just a delicious, exquisite voice, a balm for the soul” Jo Whiley, BBC radio 2
Byddan nhw yng nghwmni y basydd gwych Simon Little (The Divine Comedy).
Mae’r sioe yma yn dod â phrydferthwch y geiriau a’r gerddoriaeth i’r amlwg, gan dynnu sylw at athrylith Dusty am ddewis deunydd mor bwerus, a oedd yn aml yn adlewyrchu stori ei bywyd.
Amser dechrau: 7pm, drysau 6pm
Oed: 16+ (dim plant o dan 16 oed)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
REOLAU'R TY CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret