Dyw Sally a Susan ddim fel eich menywod swbwrbaidd arferol. Maen nhw’n fenywod busnes. Ac maen nhw’n eich gwahodd chi i seminar urddasol a allai helpu i’ch gwneud chi’n gyfoethog!
Camwch i mewn i fyd disglair a dryslyd anhrefn marchnata aml-lefel gyda Fag Packet, Kheski Kobler a Holly Wilson-Guy, yr act dwbl cabaret a theatr arobryn. Yn hanner seminar corfforaethol a hanner breuddwyd twymyn cwiar, mae DYKE Systems Ltd yn feirniadaeth siarp a thanseiliol o gynlluniau pyramid, heteronormadaeth didrugaredd a ffeministiaeth corfforaethol.
Wedi’i osod yn yr 1990au ar uchafbwynt ehangu marchnata aml-lefel, mae DYKE Systems Ltd yn dilyn stori Sally a Susan, dwy fenyw Americanaidd swbwrbaidd yn chwilio am recriwtiaid newydd ar gyfer eu ‘cyfle busnes buddiol iawn’.
Wrth iddyn nhw bori’n ddyfnach i fyd marchnata aml-lefel mae craciau’n dechrau ymddangos, gan ddatgelu llygredd a dyheadau cudd wrth i’w celwyddau ddechrau dal i fyny gyda nhw.
Gan uno coctel nodweddiadol Fag Packet o gomedi a theatr corfforol, mae DYKE Systems Ltd yn archwilio sut mae grymoedd chwant a chydymffurfiaeth yn ein bygwth ni mewn hunllef cyfalafol sy’n dod ar ein cyfer ni i gyd.
Dewch â’ch waledi, eich carabiner a pharatowch i ffeindio eich Dynamig mewnol! Ifanc! Gwybodus! Entrepreneur!
Credydau:
Dylunio Sain: Sarah Spencer
Delwedd Arweiniol: Corinne Cumming
Delweddau Cynhyrchu: Andrew Perry
“An exceptional Edinburgh Fringe debut…with whip-smart precision”
“Flawless physical performers with buckets of energy, perfectly in sync... always ready with a high camp, winky aside"
Amser Dechrau: 7pm, drysau 6pm
Canllaw Oed: 18+
Rhybuddion: goleuadau'n fflachio, niwl, cyfranogiad y gynulleidfa, iaith gref a golygfeydd o natur rywiol
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch rheolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret