Mae Harri VIII wedi dod ‘nôl yn fyw i ddarganfod ei fod ond yn cael ei gofio fel y boi yna â chwe gwraig.
Felly roedd dim ond un peth amdani. Mae Harri yn clirio ei enw mewn strafagansa drag gerddorol. Os ydych chi’n lwcus, efallai y bydd e hyd yn oed yn rhoi cyngor i chi am gariad a rhamant.
Paratowch i ganu, dawnsio ac efallai hyd yn oed podledu. Gyda pharodïau o ganeuon gan Meatloaf, Celine Dion ac Ed Sheeran, mae’r sioe wallgof yma yn archwilio ochr llai adnabyddus y brenin Tuduraidd ac yn gofyn i ni “Ydy Harri wir yn ddihiryn fel mae wedi cael ei bortreadu?”
(Ydy, siŵr o fod, ond o leiaf byddwn ni’n cael hwyl wrth i ni ffeindio allan!)
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret