CAIN | URDDASOL | DARLUNIADOL
Grace Williams Sea Sketches
Saint-Saëns Concerto i’r Ffidil Rhif 3
Elgar Enigma Variations
Er mai yn ystod ei blynyddoedd yn Llundain y cyfansoddodd hi’r gwaith, hiraeth am lan môr ei thref enedigol, y Barri, sy’n ysbrydoli’r darn sy’n agor ein cyngerdd heno, Sea Sketches gan Grace Williams. Daw’r feiolinydd Akiko Suwanai yn ôl i berfformio Trydydd Concerto Saint-Saëns i’r Ffidil, cyn i ni droi at Enigma Variations eiconig Elgar, hyn oll dan arweiniad ein Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín.
Gan daro cydbwysedd rhwng yr ysgafn a’r aruchel, mae Variations Elgar yn gasgliad dyfeisgar o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau ynghyd â hunanbortread craff; ac mae enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr gan fod pob amrywiad wedi’i dagio â llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser dechrau: 3:00pm
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
ANABIL A DIGYFLOGEDIG
£10
DROS 65 OED
£12
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.