Paratowch i gael eich syfrdanu gan Trisha McCluney, seren “I Can See Your Voice” ar BBC1 ac yn artist teyrnged y mae ei phroffil yn codi’n gyflym.
Fel Essentially Cher, mae Trisha’n dod â hud eiconig Cher yn fyw, gan gyflwyno profiad awthentig syfrdanol.
Yn syth o’i thaith o Awstralia gyda’r sioe Las Vegas “Legends in Concert”, mae Trisha yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ddydd Gwener 25 Medi i gyflwyno ei theyrnged o safon fyd-eang i Dduwies Pop. Mae gallu Trisha i gyfleu pob awgrym o bresenoldeb Cher, o’i thebygrwydd trawiadol i’w llais pwerus a heb anghofio ei ffraethineb a digywilydd-dra nodweddiadol sydd mor fanwl gywir mae cynulleidfaoedd yn dweud yn gyson ei fod yn teimlo fel eu bod yn gwylio’r person go iawn!
Mae’r sioe yma, sy’n rhaid ei gweld, yn cynnwys caneuon mwyaf gwefreiddiol Cher:
If I Could Turn Back Time
Believe
Walking in Memphis
I Got You Babe
Gypsies, Tramps & Thieves
Gydag ychwanegiad oes Dancing Queen Cher – teyrnged i gerddoriaeth ABBA ar ôl ei hymddangosiad cameo yn y ffilm Mamma Mia – mae’r sioe yma yn cynnig rhywbeth i bob cenhedlaeth.
Peidiwch â cholli allan ar un o’r perfformiadau teyrnged gorau ar y sîn heddiw – profiad llawn egni, i bob cenhedlaeth a fydd yn gwneud i chi gredu ym mhŵer Cher.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret