Yn galw ar bobl cwiar, cwiswyr a phopeth yn y canol – mae eich hoff eicon cabaret blewog o Gaerdydd / seren ‘nôl gyda noson gwis unigryw! (Nid ei bod hi wedi mynd unrhyw le, ond mae’n swnio’n dda ond yw e?!)
Cymerwch binsiad o gabaret, ychydig o noson gemau a llwyth o wallt a byddwch chi’n cael Esther Parade’s Quiz of Cabaret Chaos! Gallwch chi ddisgwyl gwybodaeth gyffredinol, bingo, meimio, karaoke, cyd-ganu, gemau, llwyth o bethau am ddim ac yn fwy na dim, gwestai arbennig iawn, i’w cyhoeddi!
Felly dewch â’ch tîm cwisio gorau ar gyfer noson o ffolineb wedi’i chyflwyno gan eich Cwisfeistres Camp bersonol, Esther Parade, a chofiwch, nid noson gwis arferol mo hon!
Uchafswm o 4 fesul tîm cwis (un bwrdd llawn yn y lleoliad)
Amser dechrau: 7pm, drysau 6pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
REOLAU'R TY CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret