Mae seren Taskmaster a Mr Bigstuff yn mynd ar ei thaith stand-yp gyntaf erioed. Mae Fatiha wedi smwddio ei hijab gorau ac mae’n barod i gyflwyno ei stand-yp arobryn ac unigryw.
Gallwch chi ddisgwyl iaith gref, chwalu stereoteipiau a syrthio’n llwyr mewn cariad â’r digrifwr yma sy’n siŵr o fod yn seren.
Fel y gwelwyd ar Live At The Apollo, QI, The Last Leg, The Jonathan Ross Show, Cats Does Countdown a Donkey. Fel y clywyd ar Off Menu, Alan Carr's Life's A Beach ac A Match Made Inshallah ar gyfer BBC Radio 4. Enillydd gwobr Sioe Gyntaf Orau Gŵyl Gomedi Caerlŷr.
‘Fatiha El-Ghorri’s impeccable timings and tough-girl shtick add warmth, raunch and surprise’
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref posibl
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.