Mae’r comedi sefyllfa Prydeinig gorau erioed ‘nôl – ar y llwyfan y tro yma!
Bron i 50 mlynedd ers iddo ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf mae Fawlty Towers bellach yn ddrama lwyfan newydd sbon wedi’i haddasu gan y seren comedi John Cleese a’i chyfarwyddo gan Caroline Jay Ranger.
Yn syth o dymor yn y West End a WERTHODD POB TOCYN! Cafodd y cynhyrchiad doniol dros ben yma ei ganmol gan bob adolygwr yn Llundain a ledled Prydain, gan werthu allan pob perfformiad yn ystod ei rediad arobryn yn y West End.
"BRILLIANT…IF YOU LOVE COMEDY, YOU WILL LOVE THIS PLAY!"
"CLEVER WRITING AND SUPERLATIVE COMEDY PERFORMANCES"
Ymunwch â Basil, Sybil, Major a chast o 18 wrth iddyn nhw ddod â’ch hoff eiliadau o benodau’r sioe yn fyw. Gyda ffraethineb siarp, anhrefn a thrychineb bob tro, dyma ddigwyddiad comedi’r flwyddyn!
Mynnwch eich tocynnau nawr i ail-fyw gwallgofrwydd Fawlty Towers yn fyw ar y llwyfan. Mae’n wyliau na fyddwch chi byth yn ei anghofio!
Canllaw oed: 8+ (ni chaniateir plant o dan 2 oed)
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed, a rhaid iddyn nhw eistedd gyda’i gilydd
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 20 munud yn cynnwys un egwyl
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (seddi penodol, argaeledd cyfyngedig). Aelodaeth.GRŴPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Maw – Iau 7.30pm
Trefnu ymweliad grŵp. Dyddiad talu: 1 Rhagfyr 2025
O DAN 16
Gostyngiad o £5 ar seddi penodol, Maw – Iau 7.30pm
16–30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau + Gwe 7.30pm
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy