Mae delweddaeth hypnotig FRAMERATE: Pulse of the Earth yn tystio i dirweddau sy’n newid. Mae effaith ymddygiad dynol a grym aruthrol byd natur yn ymagor o’ch cwmpas ar draws amrywiaeth o sgriniau. Dyma ofod lle gallai eich safbwynt newid.
FRAMERATE: Pulse of the Earth yw’r rhan gyntaf yng nghyfres FRAMERATE. Mae’r gwaith yn datgelu newidiadau a achosir gan ddiwydiant dynol a rhythmau byd natur; dinistr, echdynnu, preswylio, adeiladu, cynaeafau, twf ac erydiad. Mae straeon tri dimensiwn yn datblygu ar draws y gosodwaith aml-sianel hwn. Mae delweddaeth hypnotig yn eich amgylchynu. Mae sain yn symud drwy’r gofod. Mae’r gwanwyn yn torri, mae haul yr haf yn tywynnu drwy’r dail wrth iddyn nhw droi’n euraidd a chwympo eiliad yn ddiweddarach. Mewn gardd Seisnig hardd mae pwmpen yn tyfu. Mae mil tunnell o ddur yn cael ei wasgu. Mae tywod yn llifo wrth i glogwyn encilio. Mae 268 o wartheg yn cael eu godro. Mae 519 peint yn cael eu hyfed.
Wedi’i greu o filoedd o sganiau treigl amser 3D dyddiol o dirweddau Prydain, mae’r gwaith yn arsylwi newid ar raddfa sy’n amhosib ei gweld gyda lens camera traddodiadol.
Nid dim ond gwaith celf yw hwn. Mae’r data a gasglwyd ac a gyflwynir gan FRAMERATE yn ymchwil wyddonol arloesol, sy’n cynnwys ffeithiau empirig a mesuradwy sydd wedi’u cyhoeddi yn NATURE.
"Mae FRAMERATE: Pulse of the Earth yn amlygu fel celf, myfyrdod a gwyddoniaeth fel un. Bu ein tîm yn recordio safleoedd trefol, gwledig a diwydiannol mewn treigl amser 3D i’w dangos yn newid dros amser. Mae’r ddelweddaeth hypnotig sy’n deillio o hyn yn dangos newid amgylcheddol ar raddfa ofodol ac amserol. Gyda’r delweddau arloesol hyn, rydyn ni wedi creu gosodwaith unigryw wedi’n tywys gan egwyddorion pensaernïaeth, theatr, cerddoriaeth ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’r gwaith hwn yn gwahodd pobl i ystyried eu perthynas ag amser, yr amgylchedd, eu cymuned a gyda newid – gan gynnig ffordd newydd o edrych ar y byd a chysylltu â’r blaned.” – Datganiad y Cyfarwyddwr.
“Mae FRAMERATE yn cynnig cipolwg ar ddyfodol sinema, yn arsylwad ysgytwol ac yn eiliad obeithiol – ar yr un pryd”
– Matthew Shaw, Cyd-Sylfaenydd ScanLAB
BYWGRAFFIAD YR ARTIST
Stiwdio dan arweiniad artistiaid yw ScanLAB, sy’n archwilio’r byd drwy dechnolegau gweld peirianyddol; fe’i sefydlwyd yn 2010 gan Matt Shaw (g 1983) a William Trossell (g 1985).
Yn adnabyddus am eu corff uchelgeisiol a hiraethus o waith celf ffisegol a digidol crefftus a manwl, sy’n datgelu ac yn myfyrio ar harddwch, breuder, a gwytnwch, mae ScanLAB yn ein gwahodd ac yn ein herio i archwilio ein cyd-ddyfodol. Mae eu defnydd arloesol o sganio 3D ac estheteg cwmwl pwyntiau wedi mynd â nhw o amgylch y byd yn creu corff arloesol o waith sy’n myfyrio ar gymdeithas a byd natur: o hen wersylloedd crynhoi i iâ sy’n toddi yn yr Arctig, o swyddfa Stephen Hawking i flodau cactws yn Anialwch Sonora.
Mae’r arfer artistig hwn yn arwain at gyfres o weithiau ffisegol a digidol sy’n ffynnu ar ymyl creadigol gallu offeryn. Mae eu hestheteg yn darparu ffyrdd newydd o weld, deall a theimlo tu hwnt i allu ein llygaid a chamerâu traddodiadol. Mae ScanLAB yn gweithredu fel tyst, proses sydd wedi’i gwreiddio’n ailadroddus yn eu gwaith celf; gan ddiffinio’r eiliad mae ffotograffiaeth yn dod yn ofodol, mae’r gwaith yn gwasanaethu fel archif unigryw o’n planed sy’n prysur newid. Eu nod yw dogfennu a dehongli’r data a hanfod yr amgylcheddau a’r eiliadau a allai fel arall gael eu colli mewn amser.
Oriau Agor:
Mawrth–Mercher: 12pm–6pm (mynediad olaf 6pm)
Iau–Sad: 11am–6pm (mynediad olaf 4pm)
Sul: 11am-4pm (mynediad olaf 4pm)
Hyd y Profiad: Mae’r profiad yn 25 munud o hyd ond caiff ei chwarae’n gylchol, ac mae croeso i chi aros mor hir ag y dymunwch.
Capasiti: 10
Canllaw Oed: Mae'n rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n 18 oed neu’n hŷn. Dan 13 yn mynd am ddim
Rhybudd cynnwys: Mae’r profiad hwn yn addas i bob oed, ond cynghorir arweiniad gan rieni. Dylech nodi bod y gwaith celf yn cynnwys delweddau sy’n fflachio, a allai effeithio ar bobl sydd ag epilepsi sensitif i olau.
Iaith: Saesneg
Cwestiynau Cyffredin
Beth alla i ei ddisgwyl gan y profiad?
Mae Pulse of The Earth yn brofiad ymdrochol lle bydd gennych gyfle i weld sganiau treigl amser 3D o dirweddau a grëwyd dros gyfnodau hir. Mae’r dilyniannau’n dangos newidiadau sy’n digwydd yn rhy araf neu’n rhy gynnil i ni sylwi arnynt â’n llygaid neu â chamera arferol. I gyd-fynd â’r ddelweddaeth mae ***
Pa mor hir yw’r profiad?
Mae’r profiad yn 28 munud o hyd ond caiff ei chwarae’n gylchol, ac mae croeso i chi aros mor hir ag y dymunwch.
Pa offer sydd ei angen i gymryd rhan yn y profiad?
Does dim angen offer, profiad taflunio yw hwn.
Oes staff wrth law drwy gydol y profiad?
Oes, bydd staff Bocs ar gael i’ch tywys a’ch cefnogi drwy’r profiad cyfan yn Bocs.
Ydy’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig?
Ydy, mae’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) er mwyn i ni allu darparu ar eich cyfer.
A yw’r profiad yn hygyrch i blant?
Ydy, ond mae'n rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n 18 oed neu’n hŷn.