TARDIS mwyaf cwiar gofod ac amser!
Neidiwch ar fwrdd GALLIFREY CABARET ar gyfer noson ysblennydd o amrywiaeth a drag cosmig, a’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan y sioe deledu orau yn y bydysawd – DOCTOR WHO!
Mae’r llwyddiant cwlt yma yn ymddangos yng Nghaerdydd. Gyda drag, stand-yp, bwrlésg, cerddoriaeth a fortecs o sypreisys eraill, mae’r cabaret enfawr yma yn dathlu bod yn cwiar yn yr ‘whoniverse’ gwyllt, gwallgof a gwych.
Mae’r sioe yn camp, cynhwysol, llawen, pync ac yn hynod cwiar – rydyn ni’n ymrwymedig i lwyfannu amrywiaeth eang a chynhwysol o artistiaid a pherfformiadau,
Caiff y sioeau eu cyflwyno gan Reece Connolly fel y Doctor, gyda pherfformiadau gan Carrot [fel arfer fel Donna Noble mewn drag] a gwesteion gwadd, i gyd yn dod â chymeriadau o’r Whoniverse yn fyw.
Ers ein sioe gyntaf ym mis Tachwedd 2021, rydyn ni wedi perfformio’n rheolaidd yn y Royal Vauxhall Tavern yn Llundain, ac yn ddiweddar fe wnaethom ni symud i gartref newydd yn The Clapham Grand. Mae’r sioe wedi teithio ledled y Du, gan gynnwys i Gaerdydd, Brighton a Manceinion.
Nodwch: sioe deyrnged answyddogol yw hon, nad yw’n gysylltiedig â’r BBC nag unrhyw gorfforaethau brawychus mawr eraill
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret