DRAMATIG | TRAWIADOL | LLAWN CYMERIAD
Gorecki | Three Pieces in Old Style
Poulenc | Gloria
Dvořák | Symffoni Rhif 8
Mae’r hen yn cwrdd â’r newydd yn Three Pieces in Old Style gan Górecki. Wedi’u hysbrydoli gan ysgrifau ar hen gerddoriaeth Gwlad Pwyl a than ddylanwad cerddoriaeth foddol wedi’i chyfuno â cherddoriaeth werin, mae’r darnau swynol hyn yn crynhoi cyfaredd soniarus cerddoriaeth Górecki a’i waith ysgrifennu ar gyfer llinynnau.
O egni ymwthiol ac angerdd rhythmig y symudiadau agoriadol i dawelwch a cheinder y Domine Deus, mae gwaith chwareus a theatrig Poulenc, Gloria, nid yn unig yn fynegiant o’i ymroddiad dwfn i’r ffydd, ond yn esiampl o’i arddull gerddorol unigryw. Mae rhythmau nerthol a harmonïau dyfeisgar ar dân yma mewn gwaith eithaf drygionus a phryfoclyd ei naws. Mae Wythfed Symffoni Dvořák yn dân gwyllt o symffoni, yn llawn bywyd ac egni, gydag alawon bachog di-rif a llawenydd di-ben-draw, ac i arwain y gerddorfa mae’n bleser mawr croesawu’r arweinydd byd-enwog o Wlad Pwyl Michał Nesterowicz i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am y tro cyntaf.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser dechrau: 15.00pm
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
ANABIL A DIGYFLOGEDIG
£10
DROS 65 OED
£12
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.