Mae bywyd Harriet wedi bod mewn anhrefn cyson cyhyd ag y mae’n gallu cofio. Felly beth sy’n digwydd pan mae pethau’n dechrau mynd yn dda i’r digrifwr stand-yp arobryn?
Yn dilyn ei hymddangosiad syfrdanol ar Last One Laughing UK, mae Harriet ‘nôl ar daith gyda sioe newydd am dêts, madarch a sut mae’n gwneud ei gorau glas i fod yn ychydig bach o jaden.
Fel y gwelsoch a chlywsoch ar Live at the Apollo, Would I Lie to You?, 8 Out of 10 Cats Does Countdown a chyd-gyflwynydd y podlediad hynod lwyddiannus Single Ladies In Your Area.
‘Extraordinarily talented’ ★★★★ Scotsman
‘Packs in high calibre jokes’★★★★ Guardian
‘A masterful hour’ ★★★★ Skinny
‘Effervescent’ ★★★★ EdFest Mag
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+ (dim plant o dan 18 oed)
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret