Ar werth i aelodau Partner a Phartner Awen: 29 Medi, 10am
Ar werth i aelodau Ffrind a Ffrind+: 1 Hydref, 10am
Ar werth i cyhoedd: 3 Hydref, 10am
Ymunwch â ni ar gyfer noson o hwyl a hanner gyda’r digrifwr dychanol o fri, a’r un sy’n galw ei hun yn “stupid idiot”, Harry Enfield.
O boblogrwydd Loadsamoney, y Thatcherite Visionary, i’r cynddeiriog Kevin the Teenager, bydd Harry yn adlewyrchu ar 40 mlynedd o ddwli yn y byd comedi ac yn atgyfodi rhai o’i hoff gymeriadau ar lwyfan.
Yna, mae’n gyfle i chi ofyn cwestiynau: eich cyfle chi i ofyn sut mae popeth yn gweithio iddo fe, beth mae e fwyaf balch ohono, a sut mae’n ateb pan fydd pobl yn gofyn, "Ni fyddet ti’n cael gwneud dy bethau di heddiw, na fyddet ti?"
Peidiwch â cholli noson fythgofiadwy yng nghwmni digrifwr arbennig o wirion a hynod graff.
Amser dechrau: 7.30pm
Canllaw oed: 18+