Cyfle am ddiweddglo hapus.Mae hapusrwydd ddim ond curiad calon i ffwrdd gyda Here & Now, y sioe gerdd newydd ddoniol yn seiliedig ar ganeuon Steps, y ffenomenon pop a werthodd miliynau o recordiau. Peidiwch â cholli’r dathliad disglair yma o gariad a chyfeillgarwch wrth iddo fynd ar daith o’r DU ar ôl premiere byd hynod lwyddiannus eleni!
Croeso i’r archfarchnad glan môr Better Best Bargains, lle mae’n nos Wener, mae’r awyrgylch yn dda ac mae pawb yn dawnsio yn yr eiliau. Ond pan mae Caz yn darganfod bod y silffoedd yn llawn celwyddau a brad, mae’r haf o gariad roedd hi a’i ffrindiau yn breuddwydio amdano yn sydyn yn teimlo fel trasiedi. Ydyn nhw i gyd wedi colli eu cyfle i gael diweddglo hapus? Neu oes gan gariad gynlluniau eraill mewn golwg…?
Wedi’i gyfarwyddo gan yr arobryn Rachel Kavanaugh (Half a Sixpence, The Great British Bake Off Musical) a’i ysgrifennu gan Shaun Kitchener (Hollyoaks), mae Here & Now yn cynnwys llawer o ganeuon eiconig Steps, gan gynnwys 5, 6, 7, 8, Stomp, Better Best Forgotten a Last Thing On My Mind.
Mae’r sioe gerdd newydd sbon yma wedi’i chynhyrchu gan Steps eu hunain, ROYO ac eicon y byd pop, Pete Waterman.
Archebwch eich tocynnau nawr – byddai colli allan yn drasiedi!
Canllaw oed: 8+ (ni chaniateir plant o dan 2 oed)
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed, a rhaid iddyn nhw eistedd gyda’i gilydd
Rhybuddion: Noder efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys rhai goleuadau sy'n fflachio. Mae Here & Now yn cynnwys trafodaeth am golli babi a allai beri gofid i rai.
Amser dechrau:
Maw – Iau + Sad 7.30pm
Mer + Sad 2.30pm
Gwe 4pm + 8pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 30 munud yn cynnwys un egwyl
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (seddi penodol, argaeledd cyfyngedig). Aelodaeth.GRŴPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Maw – Iau + Gwe 4pm
Trefnu ymweliad grŵp. Dyddiad talu: i'w gadarnhau
O DAN 16
Gostyngiad o £5 ar seddi penodol, Maw – Iau + Gwe 4pm
16–30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau + Gwe 4pm
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy