Am y tro cyntaf erioed, bydd eich hoff ganeuon a chymeriadau o’r gyfres deledu CBBC sydd wedi ennill gwobr BAFTA, yn ymddangos yn fyw (ac yn farw) ar y llwyfan mewn cynhyrchiad arbennig iawn!
Pan ofynnir i William Shakespeare greu’r sioe orau yn y byd, does dim syniad ganddo faint o drafferth mae e’n mynd i gael gan frenhinoedd ffiaidd fel Harri VIII, y Frenhines Elizabeth a’r Frenhines Victoria! Mae pethau’n dechrau cynhesu pan mae Death yn ymddangos – a nawr mae Boudica, Napoleon a Cleopatra i gyd eisiau cymryd drosodd! All pethau fod yn waeth? Wrth gwrs y gallan nhw!
Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw hwn i weld yr actorion teledu anhygoel yn canu'r caneuon teledu gwych, gan gynnwys Stupid Deaths, Charles II, Dick Turpin, The Monarchs Song a mwy! Gyda band byw, wedi’i arwain gan Richie Webb ei hun, meistr caneuon Horrible Histories, mae hon yn sioe na fyddwch chi eisiau ei cholli! Dewch â’ch lleisiau canu ar gyfer sioe wirioneddol horibl!
![]()
![]()
Mae Horrible Histories ® yn nod masnach cofrestredig Scholastic Inc a chaiff ei ddefnyddio dan awdurdodiad. Cedwir pob hawl.
Ysgrifennwyd gan Terry Deary.
Darluniadau © Martin Brown.
Amser dechrau: 2pm + 5pm
Canllaw oed: 6+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
POBL O DAN 16 OED
Gostyngiad o £5 ar seddi penodol
GRWPIAU
Dyddiad talu grwpiau: 3 Tachwedd 2025. Trefnu ymweliad grŵp.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.