Oes gennych chi beth sydd angen i oroesi ffilm arswyd? Ai chi yw’r ferch olaf neu efallai’r llofrudd?
Wel, beth am ymuno â ni am noson o adloniant iasoer, cyffrous ac efallai ychydig bach yn farwol. Gallwch chi ddisgwyl doniau rhyngwladol yn cyflwyno bwrlésg, drag, syrcas a sioe ochr, rydyn ni yma i chwarae cast ac yn bwysicaf oll, eich diddanu! Beth sy’n cuddio yn y tywyllwch? Wel bydd rhaid i chi fentro i mewn a darganfod dros eich hunain, os ydych chi’n ddigon dewr.
Rydyn ni’n eich annog i wisgo gwisg ffansi; pwy a ŵyr, efallai byddwch chi’n ennill gwobr neu efallai bydd yn achub eich bywyd. Felly dywedwch wrthym ni, beth yw eich hoff ffilm arswyd?
Cast yn cynnwys:
- Cadbury Parfait
- Fruit n Fibre
- LaLa L'More
- Rotten Peach
- Ivy Groove
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Noethni, Iaith gref posib a fflachio posib (gan gynnwys goleuadau strob)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret