Mae sioe Anna Aarons er cof am y ddiweddar anfarwol Amy Winehouse yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed eleni, ac yn coffáu pymtheg mlynedd ers i'r arwres ei hunan ein gadael.
Nid teyrnged 'nodweddiadol' mohoni, ac mae Aarons, ynghyd â'i band pum aelod, yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith feddylgar drwy gatalog Winehouse, ei dylanwadau cerddorol, yn ogystal â phlethu ei cherddoriaeth wreiddiol ei hunan i mewn; gan gyfleu dylanwad Winehouse ar waith cyfansoddi caneuon modern. Ar ôl nifer o sioeau sydd wedi gwerthu pob tocyn ledled Canol Llundain, mae Aarons wrth ei bodd yn cael dod â'r sioe uchel ei pharch yma i Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Rhestr y band:
Llais – Anna Aarons
Allweddellau – Gareth Buckland
Gitâr – Magnus Ericson
Bas – Mehmet Raif
Drymiau – Will Jackson
Sacs – Kerry Williams
Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau
Oed: 18+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret