Mae’r bechgyn ‘nôl wrth i’r sioe syfrdanol wreiddiol a enillodd wobr Tony ddychwelyd ar gyfer ei 20 mlwyddiant!
Ewch y tu ôl i’r gerddoriaeth a thu mewn i stori Frankie Valli a’r Four Seasons yn y ffenomenon cerddorol am fywydau go iawn, Jersey Boys. O strydoedd New Jersey i Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, dyma sioe gerdd arbennig.
Roedden nhw’n bedwar dyn cyffredin o Jersey, nes iddyn nhw ganu eu nodyn cyntaf. Roedd ganddyn nhw sain nad oedd neb wedi’i glywed… a doedd y radio methu cael digon. Ond er bod ei harmonïau yn berffaith ar y llwyfan, oddi ar y llwyfan roedd hi’n stori wahanol iawn – stori sydd wedi’i gwneud nhw’n sêr rhyngwladol unwaith eto.
Mae’r sioe yn cynnwys eu caneuon poblogaidd i gyd fel “Sherry,” “Big Girls Don’t Cry,”“Walk Like A Man,” “Can’t Take My Eyes Off You,”“Beggin’,”“Oh What a Night” a mwy.
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion: Goleuadau strôb sy’n fflachio, tanio uchel, tawch theatraidd, mwg sigaréts llysieuol ac iaith fras go iawn New Jersey.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau, Sad, Sul 2.30pm
Mer 19 Awst, 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Gwe). Dyddiad talu: 11 Mai 2026. Trefnu ymweliad grŵp.
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (argaeledd cyfyngedig), Maw – Iau.
O DAN 16
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol, Maw – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.