Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Jive Aces

Cabaret

Jive Aces

Cabaret

6 Medi 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Jive Aces {{::on_sale_date.label}} Cabaret MM/DD/YYYY 15 event-3001

Cabaret

Jive Aces

6 Medi 2026

Cabaret

Diodde o'r felan? Wel os felly, dyma newyddion mawr – mae'r Jive Aces yn dod i droi eich gwg ar ben i lawr!

Pan welwch chi'r rhain yn ffrwydro i'r llwyfan yn eu siwtiau melyn enwog, byddwch chi'n tapio'ch traed ac yn gwenu fel ffŵl mewn dim o dro. Mae hon yn fwy na sioe, mae'n noson o amser da a'r gerddoriaeth orau, o swing synhwyrus i reiat roc a rôl, fydd yn eich gadael chi'n llawn egni.

Maen nhw wedi bod â'u halawon heintus i dros ddeugain o wledydd dros y 30 mlynedd diwethaf, gan brofi'n barhaus pam mai nhw yw prif fand jeif a swing gwledydd Prydain. Maen nhw'n llithro'n rhwydd o faledi menyn-yn-toddi i rhythm a blŵs llawn egni. Maen nhw wedi chwarae o flaen y Frenhines, wedi llenwi Neuadd Albert, ac wedi gwneud hanes fel y band cyntaf i gyrraedd rowndiau terfynol Britain's Got Talent. Gyda 250 o gigs y flwyddyn, maen nhw'n gallu troi unrhyw dorf yn llanast o fonllefau a dawnsio.

Mae'n debyg eich bod chi wedi clywed eu fersiwn nhw o glasur Morecambe and Wise "Bring Me Sunshine" – cân boblogaidd gyda bron i bedair miliwn o ymweliadau ar YouTube, sydd mor hyfryd fel bod un meddyg yn yr Unol Daleithiau wedi ei rhagnodi fel ffordd o gael gwared ar y felan. Mae wedi bod ar Strictly Come Dancing, ar Netflix, ar raglen heddlu Americanaidd ac yn ddiweddar fe ddywedodd y ddigrifwraig Miranda Hart mai hon yw un o'i hoff ganeuon gan ddatgan ar BBC Radio 3, "Mae'r Jive Aces yn gallu fy nghodi i oddi ar lawr gan wneud i fi anghofio fy hunan yn llwyr a dechrau dawnsio!"

Mae eu halbwm ddiweddaraf, Keeping The Show On The Road, yn llawn ffefrynnau'r dorf sydd wedi cyrraedd rhif 1 ar Siart Treftadaeth Mike Read ac sydd wedi'u chwarae ar y BBC a Boom Radio. Bydd rheini a'r hen glasuron fel ei gilydd yn siŵr o'ch cael i ddawnsio o'r nodyn cyntaf un.

Mae'r criw yma'n gwybod eu stwff. Maen nhw wedi rhannu llwyfannau gydag arwyr fel Van Morrison, John Travolta, Priscilla Presley, Jamie Cullum, Toto a Status Quo, ac wedi ennill gwobrau fel Gwobr Gerddoriaeth Ryngwladol Dinas Derry a Gwobr Clybiau Adloniant Prydain Fawr am eu cerddoriaeth a'u gwaith elusennol. A'u fideos cerddoriaeth? Maen nhw mor dda, maen nhw wedi ennill gwobrau mewn gwyliau ffilm. Ond yr hyn sy'n gwneud y Jive Aces yn arbennig yw'r ffordd maen nhw'n gwneud i chi deimlo eich bod chi yng nghanol y parti.

Felly peidiwch â cholli taith "Feelin' Happy"! Bachwch eich esgidiau dawnsio a pharatowch am noson o swing, jeif, ac adloniant pur sy'n siŵr o godi'ch calon fel ras balŵns aer poeth. Bachwch eich tocynnau nawr ar gyfer sioe fydd yn gwneud i chi wenu am wythnosau!

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'True Showmanship'

The Telegraph
Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'Brilliant musicianship combined with a madcap sense of fun on stage'

The Stage

Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau

Oed: 18+

IECHYD DA!

Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.

Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!

Nid yw’r seddi wedi’u cadw.

Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.

Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.

POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG

Gostyngiad o £3

GRWPIAU

Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+

Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

RHEOLAU TŶ CABARET

Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret

Cyflwynir yn

Cabaret

Cabaret

Gweld popeth
d2566bf4-0398-4a42-88dc-19e5a34f21d2

Andrew Bird - On the Edge Tour

Laura Lex Thumb

Laura Lexx: Yo-Yo Tour

Cabaret

RACHEL FAIRBURN: Vexy Beasts

Harriet_Kemsley_Floozy_1200_1800_thumb

Plosive Live mewn cydweithrediad ag United Agents yn cyflwyno…

HARRIET KEMSLEY

Gagged_Thumbnail

a Cabaret a Littlewander yn cyflwyno

GAGGED Hydref

Gagged_Thumbnail

Cabaret and Littlewander yn cyflwyno

GAGGED Mehefin

michael-akadiri-uncle-800pxsq

Cabaret

Michael Akadiri: Don’t Call Me Uncle!

Pizazz1200x900

Presented by Mick Perrin Worldwide

Christopher Hall - Pizazz

Cabaret

Ginger Johnson - Show Pony

lorna wmc thumbnails

Cabaret

Lorna Rose Treen: Now That’s What I Call Characters

7b76d0f6-e7c3-4c82-8c16-3d4ce6a8f9cd

Lee Martin ar ran Gag Reflex yn cyflwyno

Sooz Kempner: Imposter

Untitled design (13)

Lee Martin ar ran Gag Reflex yn cyflwyno…

James Barr

Sorry I Hurt Your Son (Said My Ex To My Mum)

Cabaret

Diana Ross - Tameka Jackson

47ae8470-95f4-4220-afa2-3baeb3a37042

Cabaret

Kae Kurd: Kae Kurd's Comedy Club on the Road

2a83ce49-5377-493c-b64b-c3ae3566f948

Cabaret

Tom Ward

Post-Millennium Tension

Robert White - Thumb

Cabaret

Robert White

Little Wander yn cyflwyno

Dragwyl - Thumb

Cabaret

DRAGWYL

Shellyann (Facebook Post) - 1 (1)

Cabaret

Shelly Ann

Cabaret

Showgirls and Sharks

Trunk of Funk

Cabaret Monthly Jazz Night

Trunk of Funk

Cabaret

THE SCHITTS SHOW

Shrektacular 1200x900

Cabaret

Shrektacular

Cabaret

The Pearl Revue

Cabaret

TEZ ILYAS: TEZ THINGS I HATE ABOUT YOU

Dan Costa - Thumb

Cabaret

Dan Costa

Jive Aces 2

Cabaret

Jive Aces

4a9aed80-2057-40b6-b4aa-7a3e95d92484

Cabaret

In Memory of Amy

Cabaret

Quartey & Blayney

A Work in Progress Sketch Show

Rat Pack

Cabaret

The Rat Pack, Las Vegas Live!

Camille O'Sullivan - Loveletter

Linley Hamilton - thumb

Cabaret Monthly Jazz Night

Linley Hamilton Quintet

Deviant - thumb

Cabaret

The Vaguely Deviant

Not Even Remotely Christmas Australian Summer Show

THUMBNAIL

Cabaret

Glenda & Rita

Steph Webber

Cabaret

Steph Webber - Glittering Nights

Cabaret

Big Band Burlesque

Gal Cab 2 - Thumb

Cabaret

Galifrey Cabaret

Giant-Steps-mobile

Cabaret

GIANT STEPS

Cher long

Cabaret

Essential Cher

Hannah Horton standing

Cabaret

HANNAH HORTON

WMC Musicals (Mobile)

Cabaret

The Alternative Cabaret: Musicals

STORY_ROCKMAGIC mobile

Cabaret

The Rock & Roll Magic Show

5a6b662b-d140-4587-a567-38a896746328

Cabaret

CABARET TEMPLATE