Mae bastard mwyaf Swydd Efrog a Newydd-Ddyfodiad Gorau Gwobr Gomedi Caeredin 2024 ‘nôl, ar ôl perfformiadau a werthodd allan eto yng Ngŵyl Ymylol Caeredin!
Y tro yma mae wedi marw… ac yn anfarwol. Ymunwch â hoff ddiddanwr cythreulig Prydain, perchennog Clwb Gweithwyr yn Rotherham sydd hefyd yn borth i uffern, wrth iddo eich syfrdanu o thu hwnt i’r bedd. Gwyliwch e nawr cyn iddo fynd am byth.
"Plenty of fun for fans of Johnny Vegas, The Mighty Boosh and Vic and Bob... but Kent-Walters's mock-old-school-entertainer character has a charisma and a weirdness that is all his own too" The Times
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret