Helo, gobeithio eich bod chi’n iawn. Mae fy sioe am obaith. Mae hefyd am salwch meddwl, celwyddwyr da, syniadau gwael, Lorraine Kelly ac arglwydd gang yn gorfodi fi i ddal cyw iâr amrwd. Ond mae’n ymwneud â gobaith fwy na dim.
Dwi’n byw gyda salwch meddwl cymhleth o’r enw anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) a dechreuais ysgrifennu hwn, am hwnna, ym mis Ionawr 2020. Mae wedi bod yn 5 mlynedd hir, ond dwi yma o’r diwedd. Dewch. Ysgrifennais i’r sioe i chi.
Mae Joe Tracini yn actor, awdur a chyflwynydd teledu. Mae wedi serennu mewn sioeau teledu gan gynnwys Hollyoaks, Coming of Age a The Great Outdoors, a chyflwynodd The Dengineers ar CBBC, a enillodd BAFTA. Ers mis Mawrth 2020 mae ei fideos ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu gwylio dros 90 miliwn o weithiau. Gwnaeth y rhaglen ddogfen ar Channel 4 a gafodd ei henwebu am BAFTA, Me and the Voice in My Head, archwilio’r effeithiau gwanychol aml y mae Anhwylder Personoliaeth Ffiniol Joe yn eu cael ar bob agwedd o’i fywyd. Mae ei lyfr, Ten Things I Hate About Me, ar Restr Gwerthwyr Gorau’r Sunday Times.
“The honesty is startling and potent. IT IS UTTERLY NOT S**T’”
Amser dechrau: 7pm, drysau 8pm
Canllaw oed: 16+ Yn cynnwys cyfeiriadau at salwch meddwl, caethiwed, hunanladdiad a hunan-niweidio.
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret