Yn dilyn rhediadau llwyddiannus yn Llundain a Chaeredin, mae’r seren arobryn a chreawdwr Transaction ar ITV yn mynd ar daith gyda gitâr ar ei chefn, bownti ar ei phwrs a bygythiadau marwolaeth wedi’u hysgrifennu’n wael iawn yn ei DMs.
Pan dynnodd Jordan ei dillad yn fyw ar Channel 4 (ac ennill BAFTA am wneud hynny), aeth pobl ragfarnllyd dros y byd yn falistig. Yn lwcus… roedd ei bronnau yn hefyd.
Ydy cost llwyddiant werth e? Sut ydych chi’n byw i fyny i’ch disgwyliadau uchel eich hun. Ac yn bwysicaf oll, a ddylech chi hyd yn oed bod yn ddigrifwr pan mae eich pen-ôl yn edrych mor dda â hyn? Ymunwch â Jordan wrth iddi archwilio hyn i gyd a mwy yn ei hawr o gomedi cerddorol fwyaf gwyllt eto.
Sioe Orau Gŵyl Ymylol Caeredin – Enwebai
Sioe Orau Gŵyl Gomedi Ryngwladol Melbourne – Enwebai
Seren Gomedi Newydd Channel 4 – Enillydd
Gwobr Fwyaf yng Nghomedi NextUp – Enillydd
“Terrific... blazingly energetic”
“Lyrically dextrous - blisteringly funny”
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Rheolau'r tŷ Cabaret
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret