Croeso i Sinema Realiti Rhithwir gyntaf Canolfan Mileniwm Cymru – cyfle cyffrous i gynulleidfaoedd brofi Trioleg Just for You ryfeddol Craig Quintero, sef tair ffilm fer realiti rhithwir yn cael eu chwarae ar ôl ei gilydd.
Rydyn ni'n cael cysur mewn ffeithiau, a pha mor gyfarwydd yw'r pethau rydyn ni'n gwybod eu bod yn “wir”. Mae'r haul yn codi yn y dwyrain. Mae pedair awr ar hugain mewn diwrnod. Rydw i'n bodoli. Mae'r gwirioneddau hyn yn symleiddio ein bywydau, yn ein galluogi i fynd drwy'r broses o fyw. Dydyn ni ddim yn ofni neidio i'r awyr, oherwydd rydyn ni'n gwybod y byddwn ni'n glanio ar y ddaear. Mae Trioleg Just for You yn archwilio'r posibiliadau sy'n bodoli y tu hwnt i'r patrymau bob dydd hyn, sy'n cymylu'r llinellau rhwng breuddwyd a realiti.
Gan gyfuno tair ffilm Realiti Rhithwir 360 lwyddiannus Riverbed (All That Remains, Over the Rainbow, ac A Simple Silence) yn un profiad, mae Trioleg Just for You yn trochi'r gynulleidfa mewn myfyrdod swreal ar gof, marwolaeth a chwant.
Mae'r drioleg hon gan Craig Quintero, sy'n cael ei chyflwyno fel rhan o'n rhaglen Sinema Realiti Rhithwir, hefyd yn nodi dychweliad crëwr rydyn ni wedi rhoi sylw iddo o'r blaen yn ystod arddangosfa PHI yn Taiwan yn 2022.
Yn "Just for You", mae Craig Quintero yn dod â'i arbenigedd theatrig i'r cyfrwng ymdrochol mewn ffordd feistrolgar. Gall y gynulleidfa deimlo manylder crefft llwyfan ym mhob ffrâm, dyfnder emosiynol y cymeriadau, ac agosatrwydd anghysurus gyda'r prif gymeriadau. Mae'r drioleg hon yn creu cysylltiad prin a grymus rhwng y gwyliwr a'r pwnc – rhwng yr hyn a welir a'r hyn a deimlir.
All That Remains (2022)
Er gwaethaf ein holl wybodaeth, fydd neb byth yn ein hadnabod. Myfyrdod ar y ffin hyblyg rhwng breuddwyd a realiti, ofn a dyhead yw All That Remains. Mae'n wahoddiad i weld ac i gael eich gweld.
Over the Rainbow (2023)
Gan wneud heb naratif llinol, mae Over the Rainbow yn trochi'r gynulleidfa mewn tirwedd swreal. Nid un plot neu un ystyr sydd i'r profiad, yn union fel bywyd. Mae rhywbeth yn digwydd, ac yna mae rhywbeth arall yn digwydd. Yn hytrach na chynnig neges foesol glir, mae Over the Rainbow yn annog y gynulleidfa i ymwneud â theimladau’r eiliad a chofleidio ansicrwydd yr anwybod.
A Simple Silence (2024)
A Simple Silence yw'r bennod olaf yn nhrioleg lwyddiannus Theatr Riverbed, Just For You. Mae'r profiad Realiti Rhithwir 360 hwn yn parhau ag archwiliad y gyfres o'n cysylltedd â'r byd o'n cwmpas, gan roi ansawdd animistaidd i'r amgylchedd a chymylu'r ffin rhwng gweld a chael ein gweld. Nid tystion i'r profiad yw'r gynulleidfa; nhw yw'r profiad.
BYWGRAFFIAD ARTIST - CRAIG QUINTERO
Fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Riverbed sydd wedi'i leoli yn Taipei, mae Craig wedi ysgrifennu a chyfarwyddo dros hanner cant o berfformiadau delweddol gwreiddiol, gan gynnwys cynyrchiadau yn Taiwan, Japan, Corea, Singapore, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen, a'r Unol Daleithiau. Mae hefyd yn gerflunydd ac yn artist gosodweithiau y mae ei waith wedi cael ei arddangos yn y Biennale Asiaidd, Digwyddiadau Cyfochrog Biennale Fenis, Biennale Kobe, Biennale Taipei, Amgueddfa Celfyddydau Cain Taipei, MOCA Taipei, ac Amgueddfa Celf Gyfoes Shanghai.
Cafodd ei brofiad realiti rhithwir, All That Remains, ei ddangos am y tro cyntaf yn rhifyn 79 Gŵyl Ffilmiau Fenis (2022) ac enillodd y wobr am y Profiad Ymdrochol Gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Lwcsembwrg 2023 ac am y Ffilm Realiti Rhithwir 360 Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Kaohsiung. Cafodd ei ail brofiad realiti rhithwir, Over the Rainbow, ei ddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca 2023 a chafodd ei ddewis ar gyfer yr adran "Goreuon" yn rhifyn 80 Gŵyl Ffilmiau Fenis (2023). Enillodd y prosiect Wobr Panorama yn y Festival du Nouveau Cinema.
Cafodd ei brosiect diweddaraf, A Simple Silence, ei ddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Fenis 2024. Dewiswyd Craig gan Filmmaker Magazine fel un o "25 Wyneb Newydd Ffilmiau Annibynnol" yn 2023. Yn gyn-Uwch Ysgolor Fulbright a Chymrawd Humanities Unbounded Sefydliad Mellon, cafodd Craig ei PhD mewn Astudiaethau Perfformio o Brifysgol Northwestern ac mae'n Athro yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Dawns a Pherfformio yng Ngholeg Grinnell.
CLODRESTR
Cyfarwyddwr: Craig Quintero
Cynhyrchydd: Suling Yeh
Sgriptiwr: Craig Quintero
Goruchwyliwr Ffilmio ac Ôl-gynhyrchu Realiti Rhithwir: Ming-Yuan Chuan, Ming-Yang Yeh
Sinematograffydd: William Chou
Golygydd: Ping-Ying Yen
Cerddoriaeth: Yu-Jun Wang
Cynllunydd Sain: Chin-Lun Kao
Prif Gast: Yu-Hsin Yu, Ollie Huang, Hsu-Fang Tung, Chih-Hen Hsu, Yu-Shan Tsai, Mei-Chun Hsiang, Fang-Fang Lin, Wei- Cih Li, Yen-Yi Liang, Li-Mei Chung
Artistiaid Golygfeydd: Carl Johnson, Chang-Chih Chen, Zhen-Yu Liao, Shiou-Ling Sheng
Giaffar: Wen-Tse Chen
Dylunio Gwisgoedd: Ra Thomson, Ya-Chi Chen
Cynhyrchwyd/Cyflwynwyd gan: Theatr Riverbed, Theatr Riverbed Cyf.
Gyda chyngor a chefnogaeth: Gweinyddiaeth Diwylliant Taiwan
Cefnogwyd gan: TAICCA, Theatr Genedlaethol Taichung, Archif Ffilm Kaoshiung, Sefydliad Hong, Prosiect Seek
Lleoliadau wedi'u noddi gan: C-LAB, Our Museum NTUA, Canolfan Addysg Wyddoniaeth Genedlaethol Taiwan
Rhybudd Cynnwys: Mae'r profiad hwn yn cynnwys noethni amlwg.
Noder, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael adwaith negyddol i Realiti Rhithwir. Fodd bynnag, gall realiti rhithwir achosi dryswch i unigolion sy'n niwroamrywiol, sydd ag amhariad ar eu clyw neu eu golwg, neu sy'n profi fertigo, epilepsi, pendro, ffitiau, salwch symud neu lewygu.
Amseroedd y perfformiadu: 5pm, 6pm, 7pm, a 8pm
Hyd y profiad: tua 33 munud
Canllaw Oed: 16+
Capasiti: 15
Hygyrchedd: Mae hyn yn borfiad eisteddog; bydd yna safleoedd cadair olwyn ar gael, ond mae hyn yn gyfyngedig fesul slot amser.
CWESTIYNAU CYFFREDIN
Beth alla i ei ddisgwyl o'r profiad?
Mae Trioleg Just For You yn rhan o'n sinema realiti rhithwir; bydd y tair ffilm fer Realiti Rhithwir yn cael eu chwarae un ar ôl y llall am gyfanswm o 33 munud; ar gyfer y profiad hwn bydd gofyn i chi wisgo penset realiti rhithwir.
Pa mor hir yw’r profiad?
Mae'r profiad yn para tua 33 munud.
Pa offer sydd ei angen i gymryd rhan yn y profiad?
Defnyddir clustffonau a phensetiau Realiti Rhithwir yn ystod y profiad hwn.
Oes staff wrth law drwy gydol y profiad?
Oes, bydd ein gwesteiwyr ar gael i’ch tywys a’ch cefnogi drwy’r profiad cyfan.
Ydy’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig?
Ydy, mae'r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig; byddwch yn aros ar eich eistedd drwyddo draw a does dim disgwyl fawr ddim rhyngweithio, neu ddim o gwbl, drwyddo draw. Fodd bynnag, mae gofyn i ymwelwyr â'r profiad wisgo penset Realiti Rhithwir. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am hyn.
Ydy’r profiad yn hygyrch i blant?
Nac ydy; mae gan y profiad hwn gyfyngiad oedran o 16+
Cwestiynau Cyffredin
Beth alla i ei ddisgwyl o'r profiad?
Mae Trioleg Just For You yn rhan o'n sinema realiti rhithwir; bydd y tair ffilm fer Realiti Rhithwir yn cael eu chwarae un ar ôl y llall am gyfanswm o 33 munud; ar gyfer y profiad hwn bydd gofyn i chi wisgo penset realiti rhithwir.
Pa mor hir yw’r profiad?
Mae'r profiad yn para tua 33 munud.
Pa offer sydd ei angen i gymryd rhan yn y profiad?
Defnyddir clustffonau a phensetiau Realiti Rhithwir yn ystod y profiad hwn.
Oes staff wrth law drwy gydol y profiad?
Oes, bydd ein gwesteiwyr ar gael i’ch tywys a’ch cefnogi drwy’r profiad cyfan.
Ydy’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig?
Ydy, mae'r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig; byddwch yn aros ar eich eistedd drwyddo draw a does dim disgwyl fawr ddim rhyngweithio, neu ddim o gwbl, drwyddo draw. Fodd bynnag, mae gofyn i ymwelwyr â'r profiad wisgo penset Realiti Rhithwir. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am hyn.
Ydy’r profiad yn hygyrch i blant?
Nac ydy; mae gan y profiad hwn gyfyngiad oedran o 16+