Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Katherine Jenkins 25 Year Anniversary Tour

4 Hydref 2026

Theatr Donald Gordon

Ar werth i'r cyhoedd 20 Chwefror, 10am

Mae’r artist clasurol sydd wedi gwerthu’r nifer fwyaf o recordiau y ganrif yma, Katherine Jenkins OBE, wedi cyhoeddi taith 18 dyddiad newydd sbon ledled gwledydd Prydain i ddathlu 25 mlynedd mewn cerddoriaeth.

Y Daith 25 Mlwyddiant yw’r daith gyntaf i Katherine mewn pum mlynedd a bydd yn cynnwys ei chaneuon mwyaf llwyddiannus fel Time To Say Goodbye, Jealous of the Angels, I Will Always Love You a mwy.

Yn siarad am beth mae’n ei olygu i ddathlu 25 mlynedd, meddai Katherine: “Mae cyrraedd 25 mlynedd mewn cerddoriaeth yn hynod emosiynol, ond mae’r daith yma’n ddathliad o’r cefnogwyr sydd wedi bod yno o’r cychwyn cyntaf. Mae mynd allan ledled gwledydd Prydain ac Iwerddon am 18 o sioeau arbennig yn teimlo fwy fel aduniad gyda hen ffrindiau yn hytrach na ddathliad gyrfa, a dwi methu aros i sefyll ar y llwyfan, edrych allan ar y wynebau cyfarwydd yna, a’i rannu unwaith eto.”

Katherine Jenkins OBE yw cantores glasurol fwyaf llwyddiannus y byd yn swyddogol, ar ôl cael ei henwi fel yr artist clasurol sydd wedi gwerthu’r nifer fwyaf o recordiau y ganrif yma gan Classic FM ac 14 o albymau sydd wedi cyrraedd rhif 1 ar ôl llofnodi i weithio gyda Universal Classics yn 22 oed. Ymddangosodd yn y byd cerddoriaeth yn 2003 gyda pherfformiad nodedig yn Eglwys Gadeiriol San Steffan yn anrhydeddu’r Pab John Paul II, ac ymddangosiadau mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr ac yn Nhŷ Opera Sydney.

Fel un o ffefrynnau’r Teulu Brenhinol Prydeinig, mae Katherine wedi canu mewn sawl achlysur gan gynnwys Jiwbilî Deiamwnt Ei Mawrhydi Elizabeth II, cyngherddau coroni ym Mhalas Buckingham a dathliadau ei phen-blwydd yn 90 yng Nghastell Windsor. Mae hefyd wedi perfformio ar gyfer Pabau, Llywyddion a Thywysogion, gan gadarnhau ei lle fel un o berfformwyr clasurol mwyaf poblogaidd y byd.

Ochr yn ochr â’i chyflawniadau cerddorol, mae Katherine wedi ennill statws ‘Trysor Cenedlaethol’ drwy ei gwaith elusennol. Mae hi’n noddwr byd-eang i The Wilderness Foundation, llysgennad i TUSK Trust y Tywysog William a Macmillan Cancer Support, ac yn ymddiriedolwr The British Forces Foundation – mae hi wedi perfformio i filwyr mewn ardaloedd o wrthdaro ledled y byd. Derbyniodd OBE yn 2013, a chododd hwyliau yn ystod pandemig 2020 gyda 25 o gyngherddau byw yn ystod y cyfnod clo, gan gynnwys perfformiadau ym Mhalas Buckingham a chyngerdd tu ôl i ddrysau caeedig y Royal Albert Hall.

Fel grym creadigol amlddoniog, mae Katherine wedi perfformio a recordio gyda llawer o artistiaid blaenllaw’r byd, perfformio am y tro cyntaf yn y West End yn Carousel, a chael cydnabyddiaeth ar y teledu gydag ymddangosiadau yn Doctor Who, Dancing with the Stars (ail) ac fel cyflwynydd ar Songs of Praise. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys rolau yn y ffilmiau Minamata a Dream Horse, dod yn Noddwraig HMS Caerdydd, lansio ei brand jin moethus arobryn Cygnet ac agor gŵyl gyntaf SXSW Llundain.

Profiad VIP Eithaf Katherine Jenkins

Mewn cydweithrediad â Cygnet Gin (£150)

Mwynhewch y perfformiad o un o'r seddi gorau yn y tŷ.

Dechreuwch eich noson gyda chroeso personol a choctel Cygnet (neu moctel) wedi'i baratoi'n fedrus i chi cyn y perfformiad.

Cewch gyfle i gwrdd â Katherine Jenkins a chael llun o’r foment gyda ffotograff proffesiynol i goffáu'r achlysur eithriadol yma.

Byddwch chi’n cael nwyddau unigryw wedi'u llofnodi, sydd ar gael i westeion VIP yn unig.

Cymerwch lamineiddiad a laniard VIP coffa adref fel atgof parhaol o'r profiad arbennig yma.

Pecyn VIP Arian KJ25 (£100)

Mwynhewch y perfformiad o un o'r seddi gorau yn y tŷ.

Byddwch chi’n cael nwyddau unigryw wedi'u llofnodi, sydd ar gael i westeion VIP yn unig.

Cymerwch lamineiddiad a laniard VIP coffa adref fel atgof parhaol o'r profiad arbennig yma.

Canllaw oed: 8+ (ni chaniateir plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Amser dechrau: 7pm

Hyd y perfformiad: TBC

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon