Perfformiad arbennig o bortreadau o'i llyfr sydd ar y gweill
Mae Laurie Anderson yn un o artistiaid mwyaf dylanwadol ac arloesol y pedwar degawd diwethaf. Fel awdur, cyfarwyddwr, cyfansoddwr, artist gweledol, cerddor a lleisydd, mae wedi gwthio ffiniau creadigol yn gyson ers rhyddhau ei gwaith arloesol, O Superman, yn 1981.
Mae ei gyrfa ryfeddol wedi cwmpasu cerddoriaeth, perfformio, ffilm, celfyddyd weledol a thechnoleg, gyda gwaith wedi'i gyflwyno mewn amgueddfeydd, theatrau a sefydliadau blaenllaw ledled y byd, gan gynnwys Prifysgol Harvard a NASA. Mae'n artist sydd wedi ennill Gwobr Grammy ac wedi cael Gwobr Cyflawniad Oes gan yr Academi Recordio, ac mae wedi cydweithio gydag ystod nodedig o ffigurau creadigol, gan gynnwys Brian Eno, Philip Glass, a'i phartner oes a'i chydweithiwr creadigol, Lou Reed.
Yn ei hymddangosiad cyntaf erioed yng Nghymru fel rhan o Llais 2026, mae Laurie'n cyflwyno Friends and Teachers – perfformiad arbennig o bortreadau wedi’u tynnu o’i llyfr sydd ar y gweill. Gan gyfuno straeon, craffter a ffraethineb, mae'r digwyddiad pwrpasol hwn yn cynnig cyfle prin i brofi gwaith newydd gan un o leisiau mwyaf nodedig diwylliant cyfoes.
Yn ysgogi'r meddwl, yn agos atoch ac yn ddynol iawn, mae Friends and Teachers yn gwahodd cynulleidfaoedd i fyd Laurie drwy fyfyrdodau ar y bobl, y syniadau a'r cyfarfyddiadau sydd wedi siapio ei bywyd a'i chrefft. Gallwch ddisgwyl noson fythgofiadwy gan artist arloesol y mae ei gwaith yn dal i ysbrydoli cynulleidfaoedd ledled y byd.
'Perhaps there is no better teacher for quelling our modern tensions than Laurie Anderson'
Amser dechrau:
Drysau, 7.30pm
Laurie Anderson, 8pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 10 munud (dim egwyl)
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Rhybuddion: Gall y digwyddiad yma gynnwys cerddoriaeth uchel, goleuadau sy'n fflachio neu strôb, effeithiau mwg neu dawch ac iaith gref.
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Jasdeep Singh Degun x Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, na’r profiadau Sinema Realiti Rhithwir. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.
Nodwch, ar gyfer sioeau Llais yn Theatr Donald Gordon mae'r cynnig ond ar gael ar seddi pris uchaf.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy