Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
trocks cardiff 2250x1038

Dance Consortium yn cyflwyno

Les Ballets Trockadero de Monte Carlo

Theatr Donald Gordon

12 – 13 MaI 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Les Ballets Trockadero de Monte Carlo {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2754

Dance Consortium yn cyflwyno

Les Ballets Trockadero de Monte Carlo

12 – 13 MaI 2026

Theatr Donald Gordon

Ers bron i 50 mlynedd, mae’r cwmni ballet comedi gwrywaidd Les Ballets Trockadero de Monte Carlo (sydd hefyd yn cael eu galw’n “The Trocks”) wedi bod yn difyrru cynulleidfaoedd o bob oed mewn perfformiadau sy’n gwerthu allan gyda’u hymdeimlad anhygoel o hwyl a’u dawnsiau perffaith.

Yn wreiddiol o Efrog Newydd, mae pobl ledled y byd bellach yn dwli ar y Trocks a’u parodïau sosi a’u teyrngedau doniol i ballet clasurol.

Mae pob perfformiad yn gorlifo gyda thwtwau a thestosteron, esgidiau ballet pinc, amrannau ffug ffyrnig ac agwedd prima ballerina. Ond, beth sy’n gwneud y cwmni yma yn eithriadol o arbennig yw eu techneg pur a’u cnawdolrwydd beiddgar, sydd ond wedi’u trechu gan eu hamseru doniol perffaith. 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'This is the funniest night you'll ever have at the ballet'

The Guardian

'The Trocks deliver a kick from a steel toe-cap in a silky pointe shoe'

Daily Telegraph

RHAGLEN Y DAITH

Swan Lake; Pas de Deux neu waith modern neu unigol i’w gyhoeddi; Go For Barocco; Dying Swan; Walpurgisnacht

Swan Lake

Coreograffi ar ôl Lev Ivanovich Ivanov. Cerddoriaeth gan Pyotr Ilyich Tchaikovsky. Mae fersiwn Y Trocks o’r ballet mwyaf adnabyddus yn y byd siŵr o fod yn ffantasmagoria galarnadol o amrywiadau ac ensembles mewn llinellau a cherddoriaeth. Wedi’i osod yn nheyrnas hudol elyrch (ac adar), dyma waith mwyaf enwog y cwmni.

Pas de Deux neu waith modern neu unigol i’w gyhoeddi

Go For Barocco

Coreograffi gan Peter Anastos. Cerddoriaeth gan JS Bach. Wedi’i ddisgrifio fel etifedd arddulliol “Middle-Blue-Verging-On-Black-and-White Period’ Balanachine, mae Go For Barocco wedi dod yn rhan elfennol o nodi hunanfeddiant pur a phortread coreosymffonig yn y ddawns glasurol newydd!

Dying Swan

Coreograffi ar ôl Michel Fokine. Cerddoriaeth gan Camille Saint-Saens. Dyw hi siŵr o fod ddim yn gorliwio i ddweud bod fersiwn y Trocks o Dying Swan, y ddawns unigol a grëwyd ar gyfer Anna Pavlova yn 1905, wedi dod mor eiconig â’r gwreiddiol.

Walpurgisnacht

Coreograffi gan Elena Kunikova ar ôl Leonid Lavrovsky. Cerddoriaeth gan Charles Gounod.

Wedi’i ysbrydoli gan Valpurgeyeva Noch y Ballet Bolshoi, mae’r Trocks yn cynnig eu fersiwn o’r ballet helaeth gan orfoleddu yn ei themâu dramatig, goruwchnaturiol a mytholegol gan gael effaith lawen.

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Amser dechrau: 7.30pm

Hyd y perfformiad: 2 awr yn cynnwys 2 egwyl

Sgwrs ar ôl y sioe gydag Osian Meilir: 12 Mai

Perfformiad sain ddisgrifiad gyda Thaith Gyffwrdd: 12 Mai, 7.30pm (gyda Thaith Gyffwrdd, 6pm)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig
Ymaelodi

GRWPIAU

Grwpiau o 10+, gostyngiad o £3 (2 bris uchaf)
Dyddiad talu grwpiau: 12 Chwefror 2026
Trefnu ymweliad grŵp

O DAN 16

Gostyngiad o £3 (2 bris uchaf)

16–30

Gostyngiad o £8 (2 bris uchaf)

Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon