Mae noson gomedi newydd sbon wedi glanio yng Nghaerdydd, a dyw hi ddim yn dilyn y rheolau.
Mae Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi ymuno â’r curadwyr comedi Little Wander (y meddyliau tu ôl i Ŵyl Gomedi Machynlleth) i gyflwyno’r stand-yp rhyfedd, syfrdanol a hynod ddoniol gorau. Gallwch chi ddisgwyl straeon swreal, sylwadau siarp a’r math o gomedi sy’n gwneud i chi chwerthin yn gyntaf a gofyn “aros, beth sydd newydd ddigwydd?” wedyn.
Mae’r noson lansio, dydd Iau 26 Chwefror, yn cynnwys:
· Mel Owen (MC) – digrifwr Cymreig gyda sylwadau chwim am fywyd modern.
· Sam Serrano – diofn, cyflym a hollol unigryw.
· Joz Norris – arwr cwlt y sîn comedi amgen, brenin y gwyriad swreal.
· Andy Field – cyfareddwr anghonfensiynol sy’n sylwi ar y abswrd.
Dewch â’ch ffrindiau, dewch â meddwl agored, a gadewch y cyffredin adref.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret