Mae enillydd Gwobr Dave am y Jôc Fwyaf Doniol yn yr Ŵyl Ymylol, Lorna Rose Treen, yn mynd ar daith am y tro cyntaf erioed gydag awr swreal, sili a llawen o gomedi cymeriad dwl.
Mae Lorna wedi esgus bod yn bobl eraill fel hwyl ers iddi allu gwisgo ei hun. Yn syth o dair sioe Gŵyl Ymylol Caeredin a werthodd allan ac a gafodd eu canmol gan y beirniaid, mae hi bellach yn eich gwahodd chi i mewn i’w meddwl ar gyfer awr o’i hoff gymeriadau, comedi, cynnwys, cynnwys, cynnwys, gwisgoedd a chynnwys.
Y peth gorau i ddod allan o Redditch ers offer pysgota.
‘The most fun a person can have in a room featuring folding chairs'
‘A gloriously daft hour that is heavily reminiscent of peak-era French and Saunders’
Amser dechrau: 7pm, drysau 6pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret