“Fresh, accessible and hilarious”
“Exceptionally dry… superb”
“Who can resist Marcel Lucont?… Pulling clever punchlines out of every interaction with his audience… Sometimes arrogance is bliss”
Mae’r Ffrancwr difynegiant sy’n haeddu ennill llawer o wobrau yn cyflwyno Rhestr Gwyno unigryw o gwynion, griddfannau a chamymddygiad blaenorol y gynulleidfa, gan hefyd rannu ychydig o’i farddoniaeth erotig orau.
Mae’r sioe wedi cael ei pherfformio i gynulleidfaoedd llawn ledled y byd, gan gynnwys Soho Theatre (Llundain), SoHo Playhouse (Efrog Newydd) a Malthouse Theatre (Melbourne). Gallwch chi ddisgwyl synfyfyrion amheus, ffraethineb sych a rhagoriaeth Galaidd.
Enillydd: Sioe Gomedi Orau – Gwobrau Fringe World
Fel y gwelwyd ar Live At The Comedy Store (Comedy Central), Set List (Sky Atlantic), The John Bishop Show (BBC1) a Live At The Electric (BBC3).
Mae’r sioe yma yn cael ei recordio ar gyfer podlediad Marcel Lucont’s Whine List.
Dylech chi gyrraedd o leiaf 30 munud cyn dechrau’r sioe i rannu eich cwynion.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret