Ymunwch â’r seren cabaret ryngwladol prysur iawn ac enwog iawn Mark T Cox ar gyfer awr flasus o gomedi, budreddi a chaneuon pop wrth iddo archwilio llawenydd ac arswyd bywyd hoyw cyfoes yng nghefn gwlad Iwerddon.
Yn syth o enwogrwydd a llwyddiant Gŵyl Ymylol Caeredin, a’i bodlediad Your Internet Boyfriends, mae eich hoff Paddy Daddy yn dod i Gaerdydd!
Yn ei arddull bachgen meddal dymunol, mae Mark yn rhannu straeon sgandalau ysgol, carwriaethau cudd a gormod o gusanau hwyr y nos mewn Ford Fiesta.
Gyda cherddoriaeth wreiddiol a digonedd o eiliadau cyd-ganu gan eiconau pop – J Lo, Kylie ac wrth gwrs, The Corrs.
Dyma un i’r hoywon, y gens, a’ch Mami Gwyddelig ‘woke’ newydd.
Peidiwch â cholli allan!
'A consummate pro when dealing with an audience'
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: iaith anweddus
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret