Ar werth i aelodau Partner a Partner Awen 30 Mehefin, 10am
Ar werth i aelodau Ffrind 2 Gorffennaf, 10am
Ar werth i Grwpiau 3 Gorffennaf, 10am
Ar werth i'r cyhoedd 4 Gorffennaf, 10am
Rydyn ni’n mynd i Ganolfan Mileniwm Cymru!
Enillydd y Sioe Gerdd Newydd Orau (Gwobrau WhatsOnStage) ac yn syth o’r West End, Mean Girls yw’r comedi cerddorol llwyddiannus doniol gan dîm creadigol arobryn gan gynnwys yr awdur Tina Fey (30 Rock), y cyfansoddwr Jeff Richmond (Unbreakable Kimmy Schmidt), yr awdur geiriau Nell Benjamin (Legally Blonde) a’r cyfarwyddwr a choreograffydd Casey Nicholaw (The Book of Mormon).
“The most fun you can have in the West End”
Dewch i gwrdd â’r Plastics – Regina, Gretchen a Karen. Nhw sy’n rheoli North Shore High a byddan nhw’n llosgi unrhyw un sydd yn eu ffordd. Efallai fod Cady Heron, sydd wedi cael ei haddysgu gartref, yn meddwl ei bod hi’n gwybod ambell beth am barhad y trechaf diolch i’w rhieni sy’n swolegwyr, ond mae’r ysgol uwchradd yn lefel hollol newydd o ffyrnigrwydd. Pan mae Cady yn llunio cynllun i orffen teyrnas Regina, mae hi’n dysgu drwy brofiad na allwch chi groesi brenhines heb gael eich pigo.
Gallwch chi ddisgwyl cymeriadau eiconig, ffraethineb siarp a chaneuon bachog. Ffoniwch eich ffrindiau Caerdydd – mae hon yn mynd i fod yn ‘fetch’!
Canllaw oed: 10+ (dim plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys themâu aeddfed a goleuadau strôb.
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Iau).
16-30
Gostyngiad o £8 (2 bris uchaf, Maw - Iau).
O DAN 16
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Maw - Iau).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd