Peidiwch â cholli anhrefn bywiog Midgitte Bardot a’u gwesteion arbennig wrth i Midgitte Bardot’s Personal Spot ddod i Gaerdydd am y tro cyntaf erioed.
Gallwch chi ddisgwyl noson o drag, celfyddyd perfformio, ffws od radical, rhyddid o fyd costus heddiw, a chân sioe neu ddwy.
Mae Midgitte – hunan arall drag chwyldroadol doniol yr artist perfformio hynod dalentog Tamm Reynolds – wedi bod yn perfformio ledled gwledydd Prydain ers degawd, pobman o Ŵyl Wilderness i’r Royal Court Theatre i fariau llwm Lerpwl. Yn ddiweddar maen nhw wedi cwblhau rhediad a werthodd allan o’r sioe unigol Shooting From Below yn y Southbank Centre. Yn 2023, gyda’r cynhyrchydd a churadur Willy Amot, lansion nhw raglen berfformio ryngddisgyblaethol rheolaidd a pharti yn Llundain. Nawr mae ar daith.
Lleoliad nesaf: Cabaret Caerdydd!
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Gall y digwyddiad yma gynnwys iaith gref, themâu i oedolion, noethni a gwleidyddiaeth radical.
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret