Y rolau anghywir. Y caneuon cywir. Y difas gorau.
Beth sy’n digwydd pan mae’r castio yn gwbl anghywir… ond mae’r perfformiadau mor gywir?
Croeso i Miscast Cabaret – ICONIC, noson o leisiau pwerus, rolau annisgwyl ac egni difa heb ymddiheuriad.
Caneuon rydych chi’n dwli arnyn nhw – wedi’u perfformio gan bobl fyddech chi byth yn disgwyl eu canu.
Mae’n ddewr. Mae’n ‘camp’. Mae ychydig bach yn anhrefnus. Ac mae popeth yn gwbl fwriadol.
Gallwch chi ddisgwyl lleisiau mawr, personoliaethau mwy a dathliad o’r caneuon eiconig wedi’u canu’n wahanol iawn.
Dewch am yr anhrefn. Arhoswch am y dalent.
Yn cynnwys doniau Cymreig lleol anhygoel.
Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret